Calendr noeth yn codi miloedd i ganolfan ganser

Yr haf diwethaf fe aeth hyd at 20 o gleifion canser y fron yr uned i gael tynnu eu lluniau mewn lleoliadau gwahanol - o Dremeirchion i Brestatyn, Talacre i Fae Colwyn.

Yn ogystal â chodi arian a chael hwyl, roedd 'na nod ychwanegol o godi ymwybyddiaeth o ganser y fron.

Mae'r calendr 'Breast Friends' bellach wedi codi dros £20,000 i Ganolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.