Calendr noeth yn codi dros £20,000 i ganolfan ganser y gogledd

  • Cyhoeddwyd
CalendrFfynhonnell y llun, Blue Bug Photos
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r calendr 'Breast Friends' bellach wedi codi dros £20,000 i Ganolfan Trin Canser Gogledd Cymru

"'Se chi 'di gofyn i fi blwyddyn cyn y diagnosis - tynnu dillad i ffwrdd o flaen pobl o'n i ddim yn 'nabod - 'sen i 'di chwerthin, 'sen i byth wedi gwneud dim byd fel 'ne."

Mae Carol Parry yn gweld bywyd mewn ffordd wahanol ers iddi gael canser y fron yn 49 oed.

Mae'r profiad o ymddangos yn noeth mewn calendr gyda chriw o ferched eraill oedd yn cael triniaeth am y cyflwr, bellach yn rhywbeth mae hi'n falch iawn ohono.

"'Dwi isio cael hwyl," meddai Carol, o Rhuthun.

"Mae o 'di dangos pa mor fyr ydy bywyd. A 'den ni isio mwynhau a hel arian at rywbeth pwysig i ni."

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi mor ddiolchgar bo' fi wedi bod at y doctor," meddai Carol Parry

Mae'r calendr 'Breast Friends' bellach wedi codi dros £20,000 i Ganolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Yr haf diwethaf fe aeth hyd at 20 o gleifion canser y fron yr uned i gael tynnu eu lluniau mewn lleoliadau gwahanol - o Dremeirchion i Brestatyn, Talacre i Fae Colwyn.

Yn ogystal â chodi arian a chael hwyl, roedd 'na nod ychwanegol o godi ymwybyddiaeth o ganser y fron.

'Gymaint o sioc'

"Oedd o'n gymaint o sioc cael y diagnosis," meddai Carol.

"O'n i'n checio'r fron bob mis ac wedi cael lympiau, ond oedd yr un yma'n teimlo'n wahanol.

"A dwi mor ddiolchgar bo' fi wedi bod at y doctor."

Ffynhonnell y llun, Blue Bug Photos
Disgrifiad o’r llun,

Yr haf diwethaf fe aeth hyd at 20 o gleifion canser y fron yr uned i gael tynnu eu lluniau mewn lleoliadau gwahanol

Mae Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn gweld 1,800 o gleifion newydd bob blwyddyn, a dyma'r brif uned ar gyfer triniaeth radiotherapi yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Mae rhai gwelyau ar gyfer cleifion preswyl, ond ymweld yn ddyddiol mae'r mwyafrif, gyda llawer yn teithio dros 50 milltir yno.

Gall rhai cleifion fod angen hyd at 37 o driniaethau radiotherapi.

'Da wedi dod o'r drwg'

Un arall sy'n ymddangos yn y calendr ydy Ceri Robertson o Fae Colwyn, a ddywedodd bod y sesiynau ffotograffiaeth yn "lot o hwyl!"

"'Dwi'm yn meddwl fyse pobl yn coelio hanner y pethe 'den ni wedi bod yn 'neud!" meddai.

"Mae'n un o'r pethe da sydd wedi dod allan o rywbeth drwg, a gobeithio 'neith o roi hyder i bobl eraill checio'u hunain ac edrych ar ôl eu hunain a pheidio bod ofn mynd at y doctor."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ceri Robertson fod y calendr "'di dod a lot o hwyl i lot o bobl - dim jyst i ni"

Ychwanegodd Ceri, a gafodd ddiagnosis yn 40 oed, fod "lot mwy o bethe positif allan o'r daith yma na phethe negyddol".

"Do, 'dwi wedi cael canser a do, 'dwi wedi cael triniaeth ofnadwy ac yn parhau i fynd drwy driniaeth am y 10 mlynedd nesaf yma.

"Ond y ffrindiau 'dwi 'di neud, y berthynas efo ffrindiau oes, y chwerthin, y lleoliadau 'den ni wedi bod.

"A gweld pobl ddiarth yn chwerthin ar ein pennau ni pan 'den i wedi bod mewn llefydd gwahanol.

"Mae o 'di dod a lot o hwyl i lot o bobl - dim jyst i ni.

"Mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n wirion, ond 'den ni'n cael hwyl ac yn byw bywyd fel ddylse pawb 'neud."