'Profiadau TB yn loes calon. Rhaid gweithredu'

Dywed llywydd NFU Cymru bod angen ystyried difa moch daear mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion o ddiciâu mewn gwartheg.

Wrth ymateb ar raglen Dros Frecwast ddydd Mawrth i dorcalon ffermwyr a fu'n rhannu eu profiadau ar raglen Ffermio ar S4C, dywedodd Aled Jones nad oedd o blaid difa moch daear, ond "bod eu difa yn Lloegr mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion i weld yn llwyddo".

Wrth ymateb i'r rhaglen, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwbl benderfynol o ddileu TB buchol yng Nghymru".

Yn ddiweddar mae Aled Jones ei hun wedi cael achosion o TB ar ei fferm, a dywedodd fod gwylio'r rhaglen "yn fy nwyn innau i ddagrau".

"Bu'n rhaid difa tair buwch ar y fferm a tydi o ddim yn beth braf gweld anifeiliaid perffaith iach, o fewn ychydig i ddod â lloi, ar fin geni, yn cael eu rhoi lawr ar y fferm," meddai.