'Angen ystyried difa moch daear lle mae achosion TB'
- Cyhoeddwyd
Mae llywydd NFU Cymru wedi dweud bod angen ystyried difa moch daear mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion o ddiciâu (TB) mewn gwartheg.
Dywedodd Aled Jones nad oedd o blaid difa moch daear, ond "bod eu difa yn Lloegr mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion i weld yn llwyddo".
Bu'n siarad ar Dros Frecwast ddydd Mawrth mewn ymateb i dorcalon ffermwyr a fu'n rhannu eu profiadau ar raglen Ffermio, dolen allanol ar S4C nos Lun.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gwbl benderfynol o ddileu TB buchol yng Nghymru".
'Achosi cymaint o loes'
Yn ddiweddar mae Aled Jones ei hun wedi cael achosion o TB ar ei fferm, a dywedodd fod gwylio'r rhaglen "yn fy nwyn innau i ddagrau".
"Roedd o'n frawychus iawn a does dim syndod bod cymaint o bobl yn dioddef o achosion meddwl o achos y rheolau diciâu 'ma," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn "achosi cymaint o loes".
"Bu'n rhaid difa tair buwch ar y fferm a tydi o ddim yn beth braf gweld anifeiliaid perffaith iach, o fewn ychydig i ddod â lloi, ar fin geni, yn cael eu rhoi lawr ar y fferm."
Mewn datganiad mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod nifer yr achosion o TB yng Nghymru yn gostwng ond yn ôl Aled Jones mae angen "edrych ar beth sy'n digwydd dros gyfnod o flynyddoedd".
"Ar hyn o bryd mae'r achosion yn dechrau codi... ac mi wnaiff yr ystadegau ddangos hyn maes o law.
"Yn y gogledd mae'r achosion yn cynyddu. Mae rhai ffermydd wedi rhoi'r gorau i gadw anifeiliaid oherwydd achosion o diciâu - mae llai o fuchesi wedyn o dan warchae TB ond y niferoedd yr un mor uchel," ychwanegodd Mr Jones.
Pan ofynnwyd iddo am bolisi Llywodraeth Cymru o beidio difa moch daear, dywedodd: "Tydw i ddim am weld difa moch daear.
"Yn sicr pan mae moch daear yn iach, mae'n berffaith iawn ac yn rhan o natur a bywyd gwyllt yn ein cynefinoedd ond lle mae'r clefyd mewn moch daear mewn rhai ardaloedd - mae hynny'n golygu bod y moch daear hynny sy'n dioddef o'r diciâu yn cael marwolaeth ddifrifol iawn.
"Felly o ran lles anifeiliaid, mae'n rhaid mynd i'r afael â hyn.
"Mae'r achosion sy'n digwydd yn Lloegr ble maen nhw'n targedu ardaloedd ble mae 'na ddwyster mawr o achosion TB - maen nhw wedi dangos yn glir iawn bod 60% o ostyngiad mewn achosion TB lle maen nhw wedi bod yn difa moch daear.
"Mae'r dadleuon yn gryf iawn dros hynny. Os ydyn ni am gael gwared ar y clefyd yma o fewn gwartheg a bywyd gwyllt, mae'n rhaid i ni ddatrys y broblem yn y ddau le."
Ar raglen Ffermio ar S4C nos Lun roedd cyfweliad emosiynol iawn gyda dau sydd yn ffermio yn Sir Gaerfyrddin.
Ers 2020 mae Wyn ac Enid Davies sydd yn rhedeg fferm laeth ym mhentref Capel Isaac wedi gorfod difa 180 o wartheg yn sgil TB.
Wrth siarad gyda'r cyflwynydd Meinir Howells bu'r ddau yn sôn am y torcalon o weld eu hanifeiliaid yn gorfod cael eu saethu ar glos y fferm a'r effaith mae hynny yn ei gael.
Rhybudd: Fe allai cynnwys y cyfweliad beri gofid i rai
'Torcalonnus'
Esboniodd Enid Davies bod "naw buwch wedi cael eu lladd ar y fferm [ddiwrnod cyn y recordiad], ac 18 arall yn cael eu lladd [ar ddiwrnod y recordiad] ar y clos o flaen y tŷ ble mae plant bach ifanc gyda ni.
"Mae modd i fynd â nhw oddi ar y clos i'w lladd, ond roedd y llywodraeth yn 'styc yn eu ffordd' a'n dweud bod yn rhaid iddyn nhw gael eu gwneud (difa) ar y clos."
Sut mae hyn yn gwneud i chi deimlo gofynnodd y cyflwynydd, Meinir Howells?
"Torcalonnus," oedd ymateb Enid Davies.
Dywedodd eu bod nhw "fel anifeiliaid anwes i ni. Pan mae rhywun ochr draw'r ffôn yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw gael eu gwneud (difa) ar y clos o'n blaen ni, wel!"
Ychwanegodd Wyn Davies: "Maen nhw'n dweud nad oes angen i ni fod yma, eu bod nhw'n gwneud y cwbl eu hunain. Ma'r boi lori yn troi lan a daeth menyw o'r llywodraeth mas a ni'n gorfod rhoi pob buwch yn y 'crush' ein hunain.
"Maen nhw [y gwartheg] yn gyfarwydd â ni," esboniodd Enid Davies.
Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru na allan nhw wneud sylw ar achos annibynnol ond eu bod yn ymwybodol iawn o effaith ddifrifol TB buchol ar iechyd a lles ffermwyr a'u teuluoedd a dyna pam eu bod yn "gwbl benderfynol o'i ddileu yng Nghymru".
Mae'r datganiad hefyd yn dweud bod nifer yr achosion newydd yn lleihau dros yr hir dymor a bod ffermwyr yn gwbl ganolog i'r broses o fynd i'r afael â'r broblem.
Ar raglen Newyddion S4C nos Lun fe ddywedodd Elen Gwen, sydd yn gweithio i elusen DPJ sy'n rhoi cymorth iechyd meddwl i ffermwyr, mai TB ydy "un o'r pethau sy'n achosi'r straen mwyaf".
Dywedodd mai "anaml iawn rydach chi'n gweld ffermwr yn crïo ond maen nhw yn eu dagrau yn siarad am y pwnc yma".
"Mae'n rhywbeth sy'n rhaid cael gafael arno a gwneud rhywbeth am y peth. Mae elusennau fel Tir Dewi a DPJ, i gyd yma i helpu," ychwanegodd.
Dywedodd Llyr Gryffudd AS, llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig: "Rydym yn mynegi pryder a chydymdeimlad dwfn â'r teulu Davies, y mae eu profiad dirdynnol gyda bTB yn tynnu sylw at yr angen brys am adolygiad cynhwysfawr o bolisïau Llywodraeth Cymru a'u methiant i reoli a dileu'r clefyd dinistriol hwn.
"Ar ôl magu eu stoc eu hunain, yn hytrach na prynu gwartheg allanol, cred y teulu Davies yn gryf fod cyflwyniad bTB i'w buches yn 2020 o ganlyniad i ryngweithio eu da byw â bywyd gwyllt heintiedig.
"Mae Plaid Cymru yn cydnabod arwyddocâd y persbectif hwn a'r cydgysylltiad rhwng bywyd gwyllt a lledaeniad bTB.
"Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson wrth alw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i reoli TB mewn bywyd gwyllt.
"Mae deialog agored rhwng y llywodraeth, arbenigwyr milfeddygol, a'r gymuned ffermio yn hanfodol ar gyfer datblygu strategaethau effeithiol i frwydro yn erbyn bTB.
"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei safbwynt presennol a chymryd rhan mewn sgyrsiau adeiladol sy'n blaenoriaethu lles ffermwyr Cymru a'u da byw."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi peri gofid i chi, mae cymorth ar gael yma, dolen allanol.
Rhif cyswllt elusen DPJ yw 0800 5874262 neu mae modd tecstio 07860 048799 a rhif ffôn Tir Dewi yw 0800 1214722.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023