'Y llywodraeth yn gwneud pethau'n anodd i ffermwyr'
Roedd dros 1,000 o bobl mewn cyfarfod ym mart y Trallwng nos Iau wrth i ffermwyr leisio eu hanfodlonrwydd â pholisïau Llywodraeth Cymru.
Maen nhw'n honni bod gweinidogion wedi anghofio am gefn gwlad Cymru, ac yn credu y bydd newidiadau i'r system daliadau yn taro ffermwyr yn galed.
Dywedodd Ifan Evans o Lanfihangel ei fod eisiau dangos ei wrthwynebiad i lwybr presennol Llywodraeth Cymru.
"Mae'n nhw'n trio gwneud popeth yn anodd i ffermwyr", meddai.
"Y pethe mwyaf diweddar ydi hefo'r amgylchedd, eisiau planu coed a thorri lawr ar stoc.
"Mae o fel fod nhw ddim yn deall fod ni angen bwyd i feedio pawb."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod eu "hymrwymiad i'r sector ar yr adeg heriol hwn yn glir iawn".