'Digon yw digon': Ffermwyr yn galw am newid
- Cyhoeddwyd
Roedd cannoedd o ffermwyr o ganolbarth a gogledd Cymru mewn cyfarfod yn y Trallwng nos Iau i leisio eu hanfodlonrwydd â pholisïau Llywodraeth Cymru.
Maen nhw'n honni bod Gweinidogion wedi anghofio am gefn gwlad Cymru, ac yn credu y bydd newidiadau i'r system daliadau yn taro ffermwyr yn galed.
Yn ôl y trefnwyr, roedd dros 1,000 o bobl yn y cyfarfod ym mart y dref.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod eu "hymrwymiad i'r sector ar yr adeg heriol hwn yn glir iawn".
Roedd cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a fydd yn disodli'r hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd, ymhlith rhai o'r prif bryderon gafodd eu codi yn y cyfarfod.
Bu sôn hefyd am reolau newydd sydd â'r nod o leihau lefelau llygredd mewn afonydd, a phryderon ynglŷn â'r diciâu.
Roedd y ffermwr llaeth Dai Miles wedi teithio o Sir Benfro i'r cyfarfod yn y Trallwng.
"Mae 'na dipyn o ddicter a rhwystredigaeth yma. Da' ni wastad yn gorfod delio a mwy o reolau newydd," meddai.
"Fel ffermwr da byw, rydych chi'n cael ei eich portreadu fel llygrwr mwya'r byd.
"Does neb i weld yn gwrando, a dwi'n meddwl mai dyna'r prif beth."
Wyn Evans, aelod annibynnol o Gyngor Ceredigion oedd yn cadeirio'r cyfarfod: "Digon yw digon - mae pobl wedi cael digon o weld dim byd yn cael ei wneud ym Mae Caerdydd.
"O'n nhw ishe tynnu sylw at y ffaith bod y senedd yn gadael ni lawr, yn gadael cefn gwlad i lawr, yn gadael teuluoedd amaethyddol i lawr. "
"Mae dau beth, dwi'n credu bod dim diddordeb da'r Senedd a'r llywodraeth yng Nghaerdydd yn y cymunedau cefn gwlad.
'Tanseilio amaeth'
"Dwi'n gweld fel cynghorydd, lle 'yn ni wrthi 'wan yn setio budgets a ni'n gweld bod cynghorau cefn gwlad yn cael lawer llai o arian na'r cynghorau mwy trefol.
"Dwi'n gweld hefyd y sustainable farming scheme - mae'n rhaid dweud bod hwnna yn tanseilio amaeth, mae'n tanseilio pobl ifanc - bydd dim dyfodol i'r diwydiant gyda'r sustainable farming scheme yn ei ffurf bresennol.
Ychwanegodd bod yna awydd cryf i fynd lawr i Gaerdydd i sicrhau bod aelodau'r Senedd yn deall cryfder y teimladau.
Yn ôl Hefin Evans o Dalybont ger Aberystwyth, mae hi'n "bwysig bod pawb yn sefyll efo'i gilydd" i ddelio gyda'r materion hyn.
"Mae llywodraeth Cymru wedi troi cefnau arnon ni a'u polisïau nwydd - dydyn nhw jyst ddim yn mynd i weithio efo ffermwyr," meddai.
"Mae ishe iddyn nhw ailystyried yr NVZ - mae'r gost i gyd ar y ffermwyr.
"Dy'n nhw ddim wedi cynnig dim grantiau na ddim byd, wedyn y busnes plannu coed - fferm ucheldir sydd efo ni, dyw e jyst ddim yn bosib."
'Ffermwyr yn iawn i boeni'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig, Llyr Gruffydd, fod "ffermwyr ar draws Cymru'n iawn i boeni am ddyfodol y sector".
"Mae nifer o'r heriau'n deillio'n uniongyrchol o benderfyniadau gan Lywodraethau San Steffan a Chymru.
"Boed yn effaith Brexit a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig, yn gynnydd mewn costau ffermio neu'n effaith tanseiliol cytundebau masnach newydd, rheoliadau NVZ a methu taclo TB mewn gwartheg.
"Mae'r rhain oll yn effeithio ar y sector, ond pan maen nhw oll yn dod ar yr un pryd mae'r effaith gronnus cymaint gwaeth."
'Cyfnod heriol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gwrando ar ffermwyr a'u cynrychiolwyr ac wedi diogelu cyllideb Cynllun y Taliad Sylfaenol ar £238m ar gyfer 2024, yr un lefel â 2023, fel y bwriadom. O ystyried y pwysau sylweddol rydym yn ei wynebu, nid oedd hyn yn hawdd.
"Mae hwn yn gyfnod hynod heriol ar draws pob sector, gyda'n cyllideb gyffredinol yn werth £1.3bn yn llai mewn termau real nag oedd yn 2021.
"Rydym hefyd yn parhau i deimlo effaith penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU sy'n golygu ein bod wedi colli £243m a fyddai wedi cymryd lle cyllid yr UE.
"Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar y cymorth sydd ar gael i baratoi ffermwyr a'r gadwyn gyflenwi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ein dull hirdymor o gefnogi cadernid ein diwydiant amaethyddol yng Nghymru.
"Byddem yn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y cynllun sydd ar agor tan 7 Mawrth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr
- Cyhoeddwyd16 Ionawr
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2023