Llofrudd yn prynu cannydd ar ôl lladd ei gyn-gariad

Fe fydd yn rhaid i ddyn 49 oed o Gastell-nedd Port Talbot dreulio o leiaf 17 mlynedd a hanner mewn carchar am lofruddio ei gyn-gariad.

Cafwyd hyd i gorff Georgina Dowey, 46 yn nhŷ Mathew Pickering ym mhentref Llangatwg fis Mai y llynedd dros ddiwrnod wedi iddi farw, gyda bag du dros ei phen a 32 o wahanol anafiadau.

Ar ôl ei churo a'i chrogi i farwolaeth, cafodd Pickering ei weld mewn lluniau CCTV yn prynu cannydd (bleach) mewn siop gyfagos.

Mewn datganiad dywedodd Pickering fod hynny er mwyn glanhau gwaed oddi ar y llawr yn dilyn ffrae rhwng y ddau, oedd â phroblemau gydag alcohol a chyffuriau.

Fe blediodd yn euog i ddynladdiad ond fe gafodd ddedfryd o garchar am oes ddydd Llun wedi i reithgor ddyfarnu ei fod yn euog o lofruddio Ms Dowey.