Carcharu dyn am oes am lofruddio ei gyn-gariad

  • Cyhoeddwyd
Mathew PickeringFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Mathew Pickering dreulio isafswm o 17 mlynedd dan glo

Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes am grogi a churo ei gyn-gariad i farwolaeth mewn tŷ yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae Mathew Pickering, 49, wedi cael ei ddedfrydu i o leiaf 17 mlynedd a hanner o garchar am ladd Georgina Dowey, 46.

Roedd Pickering wedi cyfaddef dynladdiad ond wedi gwadu llofruddio Ms Dowey mewn tŷ yn Stryd Beaconsfield, Llangatwg ar 7 Mai 2023.

Ond cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Abertawe yr wythnos ddiwethaf.

Clywodd y llys fod corff Ms Dowey wedi cael ei ganfod bron i ddiwrnod wedi ei marwolaeth, gyda bag du dros ei phen a 32 o anafiadau unigol.

Yn ystod yr achos, clywodd Llys y Goron Abertawe fod Mr Pickering a Ms Dowey mewn perthynas dros gyfnodau, a bod gan y ddau broblemau gydag alcohol a chyffuriau.

Disgrifiad,

Lluniau CCTV yn dangos Mathew Pickering yn prynu cannydd wedi llofruddiaeth Ms Dowey

Dywedodd yr erlynydd Michael Jones fod Ms Dowey wedi dioddef trais domestig mewn perthynas flaenorol.

Doedd dim trefn ar ei ffordd o fyw, meddai, gan ei gwneud "hyd yn oed yn fwy bregus".

Fe welodd y rheithgor luniau camera cylch cyfyng o siop gyfagos oedd yn dangos Mr Pickering yn gadael y tŷ i brynu nwyddau, gan gynnwys cannydd (bleach), wedi marwolaeth Ms Dowey.

Mewn datganiad dywedodd fod hynny er mwyn glanhau gwaed oddi ar y llawr.

Honnodd Pickering fod y ddau wedi cael ffrae a orffennodd gyda Ms Dowey wedi'i chrogi ar lawr yr ystafell ymolchi.

Cafodd corff Ms Dowey ei ddarganfod wedi i dad Pickering ffonio 999 oherwydd pryder am iechyd meddwl ei fab, er nad oedd yn gwybod beth oedd wedi digwydd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod Georgina Dowey wedi bod yn ddioddefwr trais yn y cartref yn y gorffennol

Pan gafodd Pickering ei arestio, fe'i clywyd ar gamera'r heddlu yn dweud ei fod "yn amddiffyn fy hunan", a bod Ms Dowey wedi bod "yn ddim byd ond trafferth".

Wedi'r rheithfarn, dywedodd y Barnwr Paul Thomas y dylai Pickering baratoi "am un ddedfryd yn unig, sef carchar am oes".

Cyn i Pickering gael ei ddedfrydu, fe glywodd y llys ddatganiad gan ferch Georgina Dowey, Chelsea, a ddisgrifiodd y "torcalon" roedd y teulu wedi ei ddioddef.

Roedd Pickering wedi lladd ei mam "yn y ffordd mwyaf erchyll a di-urddas posib", meddai.

"Wna i fyth faddau i ti am beth wnes di i fy mam, am ddinistrio ein bywydau," meddai.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Georgina Dowey ei ganfod ar Stryd Beaconsfield yn Llangatwg

Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr Paul Thomas KC fod Pickering wedi "llofruddio dynes fregus iawn mewn modd ciaidd".

"Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn ffordd arswydus o farw, a byddai hi wedi dioddef nid yn unig yn gorfforol ond yn seicolegol," meddai.

Roedd Pickering wedi ceisio cuddio'r hyn a wnaeth "yn bwyllog a threfnus", gan gael gwared ar dystiolaeth fel ffonau symudol.

Ar ôl cael ei arestio roedd wedi ceisio creu "honiad hollol ffug ei bod hi wedi ymosod arnoch chi gyda chyllell".

Y realiti, meddai'r barnwr, oedd bod Pickering wedi lladd Ms Dowey "mewn cenfigen" ar ôl gweld negeseuon ar ei ffôn gan ddyn arall.

Wrth ddedfrydu Pickering i isafswm o 17 mlynedd a hanner dan glo, nododd y Barnwr Thomas na fyddai'n gymwys i ystyried cael ei ryddhau nes 2040, pan fydd yn ei 60au hwyr.