Beirniadu cefnogaeth iechyd meddwl i gleifion strôc
Mae menyw a gafodd strôc pan oedd ond yn 29 oed yn galw am fwy o gefnogaeth iechyd meddwl yn dilyn y salwch.
Dywedodd Melissa Broad ei bod yn "poeni y bydd pobl yn gallu bennu lan mewn lle tywyll iawn" heb gefnogaeth ddigonol.
Yn ôl elusen Mind a'r Gymdeithas Strôc, dim ond 3% o'r rheiny sy'n derbyn cymorth iechyd meddwl yn dilyn cael strôc.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cydweithio â'r Gymdeithas Strôc i helpu pobl wella yn dilyn y salwch.