'Ges i strôc yn 29 a chyrraedd lle tywyll iawn'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn ôl Melissa Broad, nid yw'r gefnogaeth iechyd meddwl yn ddigonol i gleifion strôc

Mae menyw a gafodd strôc pan oedd ond yn 29 oed yn galw am fwy o gefnogaeth iechyd meddwl yn dilyn y salwch.

Dywedodd Melissa Broad ei bod yn "poeni y bydd pobl yn gallu bennu lan mewn lle tywyll iawn" heb gefnogaeth ddigonol.

Yn ôl elusen Mind a'r Gymdeithas Strôc, dim ond 3% o'r rheiny sy'n derbyn cymorth iechyd meddwl yn dilyn cael strôc.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cydweithio â'r Gymdeithas Strôc i helpu pobl wella yn dilyn y salwch.

Strôc tair wythnos ar ôl cael plentyn

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Melissa Broad a'i theulu

Fe brofodd Melissa Broad, o bentref Creigiau ger Caerdydd, strôc pan oedd yn 29 oed, a hynny yn gwbl annisgwyl.

Dair wythnos cyn hynny roedd hi wedi rhoi genedigaeth i'w phlentyn cyntaf.

Wedi iddi brofi poenau ofnadwy yn ei phen, dywedodd y meddyg mai meigryn oedd arni, ond 10 awr yn ddiweddarach nid oedd yn gallu siarad yn iawn. Oriau'n ddiweddarach ac nid oedd yn gallu siarad o gwbl.

Fe alwodd ei gŵr, Paul am ambiwlans, ac ar ôl cyrraedd yr ysbyty fe ddywedodd y meddyg wrthi ei bod hi wedi cael strôc.

Roedd yr effaith corfforol yn ddifrifol, gyda Melissa yn methu siarad, ysgrifennu na darllen ar ôl gadael yr ysbyty.

'Teimlo fel bod fy mywyd i drosodd'

Fe gafodd y strôc effaith ar ei hiechyd meddwl yn ogystal â'r effeithiau corfforol.

Dywedodd: "Yn yr ysbyty fe wnaethon nhw gynghori fi i beidio â chael mwy o blant oherwydd y risg, a dweud mwy na thebyg bydde ni byth yn gweithio eto."

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dyma Melissa a Paul ar ôl cyrraedd adref o'r ysbyty wedi genedigaeth Ellis

"Fe nes i ddechrau meddwl be' oedd o 'mlaen i a siwd oedd fy mywyd i mynd i weithio mas.

"Roedd e'n teimlo 'chydig bach fel bod fy mywyd i drosodd. Fe wnaeth hynna i gyd gael effaith enfawr ar fy iechyd meddwl i ac roeddwn i mewn lle tywyll iawn."

Mae Melissa yn galw am ragor o gefnogaeth i bobl sydd wedi cael strôc ac yn profi problemau iechyd meddwl.

Dywedodd nad oedd "neb 'di cynnig unrhyw gymorth i fi, a bu'n rhaid i fi edrych am gymorth a help ar-lein, ond achos bo' fi ffili darllen yn dda roedd e'n anodd iawn."

Mewn adroddiad ar y cyd mae Mind Cymru a'r Gymdeithas strôc yn pwysleisio nad yw profiad Melissa yn un anghyffredin.

Maen nhw'n dweud fod 70,000 o bobl yng Nghymru wedi cael strôc, a bod tri chwarter o'r rheiny wedi profi o leiaf un broblem iechyd meddwl ers y salwch.

Maen nhw hefyd yn dweud mai ond 3% sydd wedi cael cefnogaeth pan fod yr angen fwyaf arnyn nhw.

'Lle tywyll iawn'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Melissa Broad erbyn hyn yn 41 oed ac mae ganddi dri o blant, Ellis yn 13, Mari, 10 a Heti yn 7

Yn dilyn ei phrofiad hi, mae Melissa o'r farn bod lle i wella o ran yr help a'r gefnogaeth sydd ar gael.

Dywedodd iddi fod yn "ffodus, roedd gyda fi deulu cefnogol o 'nghwmpas i ac roedd gyda fi fabi newydd a bues i yn canu a darllen iddo fe er mwyn cael fy hunan mewn lle gwell.

"Ond os nad yw'r gefnogaeth yna gen ti, rwy'n ofni y bydd pobl yn gallu bennu lan mewn lle tywyll iawn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd sy'n gyfrifol am gynllunio a chyflwyno gwasanaethau strôc", ond bod y llywodraeth yn cydweithio â'r Gymdeithas Strôc i helpu pobl i wella ar ôl strôc ac "mae hyn yn cynnwys gwella mynediad i wasanaethau cefnogi".

Pynciau cysylltiedig