Ymarfer corff: 'Rhaid i fabi weithio o dy gwmpas di'

Mae sesiynau ymarfer corff ar gyfer mamau a'u babanod newydd yn dod yn fwyfwy poblogaidd.

Yn ôl gwefan y Gwasanaeth Iechyd, mae un ymhob 10 o famau newydd yn dioddef iselder o fewn blwyddyn o gael babi.

Nod y dosbarthiadau felly yw hybu iechyd corfforol a meddyliol mamau newydd a chynnig lle diogel i fenywod wrth wneud ymarfer corff.

Mae Catrin Jones o Bwllheli yn fam i bedwar o blant, ac mae medru cadw'n heini'n hynod o bwysig iddi.

Ar ôl cael trafferth gwneud hynny pan yn fam am y tro cyntaf, mae Catrin wedi chwarae rhan flaenllaw ym mhenderfyniad y ganolfan hamdden leol i gynnal dosbarthiadau sy'n croesawu rhieni a'u plant.

Dywedodd Catrin fod hyfforddwr wedi dweud wrthi unwaith fod yn rhaid i'w phlant addasu i'w bywyd hi o ran ymarfer corff - nid y ffordd arall - a bod hynny wedi aros gyda hi.