Galw am fwy o gefnogaeth i helpu mamau gadw'n heini

Disgrifiad,

Dywedodd Catrin Jones ei bod wedi cael cyngor fod "rhaid i fabi weithio o dy gwmpas di" o ran ymarfer corff

  • Cyhoeddwyd

Mae’n siŵr nad babanod yw’r peth cyntaf sy’n dod i feddwl wrth drafod dosbarthiadau ffitrwydd.

Ond mae sesiynau ymarfer corff ar gyfer mamau a’u babanod newydd yn dod yn fwyfwy poblogaidd.

Yn ôl gwefan y Gwasanaeth Iechyd, mae un ymhob 10 o famau newydd yn dioddef iselder o fewn blwyddyn o gael babi.

Nod y dosbarthiadau felly yw hybu iechyd corfforol a meddyliol mamau newydd a chynnig lle diogel i fenywod wrth wneud ymarfer corff.

Erbyn hyn, mae rhai o'r plant yn gallu cymryd rhan ochr yn ochr â'u rhieni.

'Gwneud lles yn feddyliol a chorfforol'

Mae Catrin Jones o Bwllheli yn fam i bedwar o blant, ac mae medru cadw’n heini’n hynod o bwysig iddi. 

“Heb ymarfer corff dwi’n teimlo’n sluggish a blin. Mae’n cael cymaint o effaith negyddol arna i,” meddai. 

Ar ôl cael trafferth cadw’n heini pan yn fam am y tro cyntaf, mae Catrin wedi chwarae rhan flaenllaw ym mhenderfyniad y ganolfan hamdden leol i gynnal dosbarthiadau sy’n croesawu rhieni a’u plant.

Dywedodd: “Fedra i ddim egluro pa mor falch ydw i fy mod i’n cael dod a’r plant gyda fi.

"Mae’n gwneud lles i fi’n feddyliol ac yn gorfforol.

"Dwi’n gweithio’n llawn amser fel athrawes ac mae gallu dod i wneud ymarfer corff gyda’r nos yn gwneud i fi deimlo gymaint gwell.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Jones o'r farn bod angen i bob mam gael mwy o gyfle i gadw'n heini

Er yn falch bod y dosbarthiadau yma nawr ar gael ym Mhwllheli, mae Catrin yn teimlo bod angen gwneud mwy eto i gefnogi mamau i gadw’n heini.

“Yn bersonol dwi ddim yn meddwl bod ‘na ddigon o gyfleoedd i famau wneud ymarfer corff gyda’u babanod," meddai.

"'Da ni’n lwcus yn yr ardal hon bod gennym ni’r dosbarthiadau yma.

"Mae rhywun yn poeni weithiau bod ni’n amharu ar y sesiynau, ond maen nhw wrth ei boddau yn gweld y plant yn rhedeg o gwmpas.

"Mae angen i bob mam cael y cyfle i wneud rhywbeth tebyg."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr actores West End Sophie Evans fod y dosbarthiadau yn "fan ddiogel" i gadw'n heini gyda'i mab Jack

Nid Catrin yw’r unig fam sy’n gwerthfawrogi sesiynau o’r fath.

Mae Sophie Evans yn un o sêr y West End.

Mae hi’n cymryd rhan mewn dosbarthiadau ffitrwydd rheolaidd gyda’i mab blwydd oed, Jack, yng nghampfa ION yn Llanisien yng Nghaerdydd.

“Pan chi'n cael babi mae eich bywyd yn newid yn llwyr,” meddai Sophie.

“Gall mamau deimlo’n euog pan fyddan nhw’n blaenoriaethu eu hunain oherwydd bod gennych chi fabi, ond rwy’n credu bod cadw’n gorfforol iach yn gwneud lles i fy iechyd meddwl."

Ychwanegodd: “Mae’r dosbarth hwn yn fan diogel i gadw’n heini.

"Os oes angen newid cewyn ar Jack neu os yw’n llwglyd, dwi’n gallu rhoi potel iddo neu newid ei gewyn.

“Rwyf wedi gweld mamau yn bwydo ar y fron tra ar y beic ymarfer corff, a dwi'n meddwl 'waw ti'n anhygoel'."

'Cŵl gwneud ymarfer corff gyda mam'

Ffynhonnell y llun, Lluniau cyfrannwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceti yn cymryd rhan mewn cystadleuaethau rhedeg, yn union fel ei mam Catrin

O wylio yn ei sedd babi i gymryd rhan yn y dosbarthiadau ffitrwydd ochr yn ochr â Catrin, mae Ceti, ei merch hynaf, yn hoff o’r cyfle i gadw’n heini gyda’i mam.

Dywedodd: “Dwi’n licio gwneud ymarfer corff gyda mam. Mae’n hwyl ac yn cŵl.  

"Mae hefyd wedi gwneud i fi sylweddoli bel mae’n bosib cyflawni.

"Dwi wedi dechrau cystadlu mewn rasys oherwydd y sesiynau gyda mam.”

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Carys Ferris ei bod hi wedi gweld cynnydd yn nifer y rhieni sy'n mynychu sesiynau gyda'u plant

Canolfan Hamdden Byw’n Iach Dwyfor sy'n rhedeg y sesiynau mae Catrin a’i phlant yn mynychu.

Dywedodd rheolwr y ganolfan Carys Ferris: "Wnâi byth anghofio Catrin yn dod atom ni am y tro cyntaf a dweud mor bwysig oedd o iddi hi ei bod hi’n gallu dod yma gyda’i phlant i wneud ymarfer corff.

"Doedd o ddim yn rhywbeth roedd hi’n gallu gwneud o’r cychwyn gyda’i phlant hynaf.”

Ychwanegodd: “Ers i ni benderfynu cynnal sesiynau i deuluoedd, ble mae’r plant yn gallu chwarae wrth i’w rhieni gymryd rhan, mae nifer y rhieni sy’n mynychu gyda’u plant wedi cynyddu’n sylweddol.

"'Da ni'n teimlo bod o’n bwysig iawn galluogi rhieni i wneud hynny.”

Pynciau cysylltiedig