Amaeth: Llywodraeth Cymru'n 'dweud, nid trafod'

Bydd NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yn cyfarfod y gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths ddydd Llun i drafod anfodlonrwydd ffermwyr ynglŷn â newidiadau i'r taliadau i ffermwyr gan y llywodraeth.

Daw yn dilyn protestiadau yn erbyn y cynlluniau yn Wrecsam, Sir Gâr a'r Drenewydd yn ddiweddar.

Elfen fawr sydd wedi achosi gwrthwynebiad yw'r argymhellion i sicrhau bod coed neu dyfiant tebyg ar 10% o dir ffermwyr.

Mae Martin Griffiths yn ffermio yn yr ardal rhwng Aberystwyth a Borth ac yn is-gadeirydd undeb yr NFU yng Ngheredigion.

Dywedodd ar Dros Frecwast fore Llun fod ffermwyr yn "fwy na bodlon" addasu, ond mai'r pryder yw bod Llywodraeth Cymru yn "gweud 'tho ni beth i wneud, yn lle siarad gyda ni am shwt ma' 'neud e".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nodau'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw diogelu systemau cynhyrchu bwyd, a sicrhau bod ffermwyr yn parhau i ffermio'r tir.

"Y bwriad hefyd yw diogelu'r amgylchedd, a mynd i'r afael â'r angen inni ymateb ar fyrder i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur.

"Ni fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar y cynllun tan ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, ac rydyn ni'n annog pawb i ymateb ac i ddweud eu dweud erbyn 7 Mawrth."