Beth yw'r rheswm dros y ffrae rhwng ffermwyr a'r llywodraeth?
- Cyhoeddwyd
Ar draws Ewrop yn gynharach eleni, roedd golygfeydd o ffermwyr yn eu tractors yn protestio wedi hawlio'r penawdau.
O wlad i wlad mae'r rheswm pam fod amaethwyr yn anniddig yn amrywio - ond mae costau cynyddol, rheoliadau llymach a newidiadau polisi yn gwynion cyffredin.
Bu ffermwyr Cymru hefyd yn protestio, gan honni bod gwleidyddion ym Mae Caerdydd wedi troi cefn ar gefn gwlad.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod eu hymrwymiad i'r sector amaeth "ar yr adeg heriol hon yn glir iawn".
Ond beth yw'r materion sy'n achosi'r drwgdeimlad?
Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw un o'r prif bethau sy'n pryderu ffermwyr ar hyn o bryd.
Dyma fydd y cymhorthdal newydd i ffermydd Cymru ar ôl Brexit - cynllun sydd wedi bod yn cael ei ddatblygu ers blynyddoedd.
Y bwriad yw gwobrwyo ffermydd yn y dyfodol am ddulliau amgylcheddol-gyfeillgar o amaethu.
Byddai'n rhaid cytuno gyda nifer o ofynion - o brofi ansawdd pridd i gwblhau cyrsiau "datblygiad personol parhaus" arlein.
Mae 'na ddwy reol hefyd sydd wedi profi'n arbennig o ddadleuol - sef sicrhau bod coed ar 10% o'u tir, a chlustnodi 10% fel cynefin i fywyd gwyllt.
Dyw hyn ddim o reidrwydd yn golygu peidio'r defnyddio'r ardaloedd yma i gynhyrchu bwyd, fel mae rhai yn ei honni.
Er enghraifft, gall caeau sy'n cael eu defnyddio i bori gwartheg a defaid gael eu cyfri yn y targed 10% cynefin os oes ganddyn nhw amrywiaeth o laswelltydd a blodau gwyllt.
Ond mae nifer o ffermwyr yn dweud bod y gofynion yn anymarferol i fusnesau sydd eisoes dan bwysau yn wyneb costau cynyddol.
Maen nhw'n dadlau hefyd fod y cynllun yn annheg o gofio bydd rhai ffermydd yn ei chael hi'n haws nag eraill i gydymffurfio.
Sut gyrhaeddon ni'r pwynt yma?
Mae drwgdeimlad a phryder ynglyn â'r cynllun sybsidi newydd wedi bod yn byrlymu o fewn byd amaeth Cymru ers misoedd, os nad blynyddoedd.
Y bwriad oedd dechrau cyflwyno'r drefn newydd o Ebrill 2025, ond ym mis Mai cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig Huw Irranca-Davies y byddai'n oedi nes 2026.
Yn y Sioe Frenhinol ym mis Mehefin 2023, fe gyhoeddodd arweinwyr undeb NFU Cymru na fydden nhw yn medru ymuno â'r cynllun yn bersonol fel ag yr oedd.
Roedden nhw'n dadlau bod yr orfodaeth i sicrhau bod coed ar 10% o fferm yn anymarferol o berspectif busnes ac y byddai'n effeithio ar werth eu tir.
Mae'r undebau wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda'r llywodraeth ers hynny.
Cafodd trydydd ymgynghoriad ar y cynlluniau ei gyhoeddi cyn y Nadolig, gyda chyfarfodydd gorlawn wedi'u trefnu drwy Gymru i esbonio'r cynigion i ffermwyr.
A gyda hynny cafodd mwy o betrol ei roi ar y fflamau gyda chyhoeddiad asesiad effaith economaidd - oedd yn rhagweld y potensial am 10.8% o ostyngiad mewn da byw a 11% o gwymp mewn swyddi ar ffermydd Cymru.
Honni bod y dadansoddiad yna'n hen ac yn son am fersiwn flaenorol, symlach o'r cynllun wnaeth Llywodraeth Cymru.
Maen nhw'n dweud y bydd eu cynlluniau yn cadw ffermwyr yn ffermwyr tra'n "mynd i'r afael ar fyrder â'r argyfyngau hinsawdd a natur".
Cafwyd 12,000 o ymatebion i'r ymgynghoriad olaf, gyda'r llywodraeth yn dweud bod angen amser i ddadansoddi'r sylwadau.
Cynllun Cynefin Cymru
Cyn bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy'n cael ei gyflwyno, mae 'na ffrae arall wedi codi am daliadau amgylcheddol dros dro yn 2024.
Mae faint sy'n cael ei gynnig yn ariannol dan Gynllun Cynefin Cymru - i wobrwyo ffermwyr am helpu bywyd gwyllt - 45% yn is na'r hen drefn - sef cynllun Glastir.
Mynnu mae Llywodraeth Cymru eu bod wedi gorfod blaenoriaethu diogelu cyllideb y taliad sylfaenol y mae ffermwyr wedi arfer ei dderbyn ar sail faint o dir sy' dan eu gofal.
Efallai i chi glywed ffermwyr yn cyfeirio at hwn fel y BPS.
Ond mae'r sefyllfa wedi cythruddo ffermwyr - gan gynnwys y rhai mwyaf ecogyfeillgar y mae'r llywodraeth am eu gweld yn llwyddo.
NVZ
Dyma dair llythyren arall sy'n aml ar wefusau ffermwyr.
Tan yn ddiweddar, rhyw 4% o Gymru oedd yn cael eu cyfri'n barthau perygl nitradau, neu nitrate vulnerable zones.
Ardaloedd yw'r rhain lle mae 'na reolau llym ar storio a gwasgaru gwrtaith a thail anifeiliaid er mwyn diogelu ansawdd dŵr afonydd.
Ond yn 2021, penderfynodd Llywodraeth Cymru ymestyn rheolau tebyg i NVZ ar draws y wlad i gyd.
Mae'r newid yn cael ei gyflwyno'n raddol ond maes o law, fydd ffermwyr ond yn cael gwasgaru ar adegau penodol o'r flwyddyn.
Mae hynny'n golygu y bydd rhaid i nifer fuddsoddi arian sylweddol mewn storfeydd neu leihau faint o anifeiliaid maen nhw'n eu cadw.
Mynnu bod angen rheoleiddio llym mae pysgotwyr ac ymgyrchwyr afon.
TB
Yn ola', ond y pwysica', yn ôl rhai ffermwyr o ran eu hanfodlonrwydd â'r llywodraeth, yw'r ymdrech i fynd i'r afael â'r diciâu, neu TB, mewn gwartheg.
Mae'r clefyd wedi melltithio rhannau helaeth o Gymru ers degawdau gan arwain at gyfyngiadau a thorcalon i ffermydd sydd wedi'u taro.
Mae gwartheg yn wynebu profi cyson a'r sawl sy'n dangos arwyddion o'r haint yn cael eu lladd.
Ond mynnu bod angen rhaglen difa moch daear hefyd mae'r rhan helaeth o ffermwyr, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wrthod.
Mae 'na gyfuniad o bethau'n cythruddo ffermwyr ar hyn o bryd - ar adeg pan fod costau cynyddol yn rhoi busnesau dan bwysau a theimlad hefyd nad yw eu rôl wrth borthi'r wlad yn cael ei barchu.
Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu y bydd eu cynlluniau'n "sicrhau systemau cynhyrchu bwyd diogel, cadw ffermwyr yn ffermio'r tir, diogelu'r amgylchedd a mynd i'r afael â galwad brys yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur".
Oes datrysiad ar y gorwel?
Mae Huw Irranca-Davies wedi cyhoeddi ei fod yn sefydlu grŵp i helpu Llywodraeth Cymru gyda system cymorthdaliadau i ffermwyr, gyda chais i ailedrych ar y rheol am orchudd coed.
Dywedodd fod y llywodraeth wedi ymrwymo i "barhau i wrando" a "gweithio gyda" ffermwyr.
Dywedodd ei fod yn gwahodd undebau ffermio a grwpiau eraill i drafod, ac mai un o dasgau cyntaf y grŵp fyddai ystyried syniadau "amgen ar sut y gellid defnyddio'r SFS i ddal a storio rhagor o garbon".
Ar 14 Mai, cyhoeddodd na fyddai'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dechrau cael ei gyflwyno tan 2026, gyda ffermwyr i barhau i dderbyn eu prif gymhorthdal arferol yn 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023