Meddygon iau: 'Ni'n deall pam maen nhw'n streicio'

Mae miloedd o feddygon iau ar draws Cymru wedi dechrau streic dridiau o hyd, wrth iddyn nhw barhau i ofyn am godiad cyflog.

Mae disgwyl i dros 3,000 o aelodau o gymdeithas feddygol y BMA streicio, gan olygu bod miloedd o lawdriniaethau ac apwyntiadau'n cael eu gohirio.

Dyma'r eildro i feddygon iau streicio ers mis Ionawr, wrth iddyn nhw honni eu bod nhw wedi colli tua traean o'u cyflog yn y 15 mlynedd ddiwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad ydyn nhw'n gallu fforddio talu mwy na'r cynnig codiad cyflog o 5%.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y gweinidog iechyd Eluned Morgan ei bod yn"deall pam maen nhw'n neud e a pa mor rhwystredig ma' nhw'n teimlo", ond nad yw'r cyllid ar gael i gynnig codiad cyflog uwch.