Meddygon iau ar streic eto yn sgil 'pwysau mawr'
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o feddygon iau ar draws Cymru wedi dechrau streic dridiau o hyd, wrth iddyn nhw barhau i ofyn am godiad cyflog.
Mae disgwyl i dros 3,000 o aelodau o gymdeithas feddygol y BMA streicio, gan olygu bod miloedd o lawdriniaethau ac apwyntiadau'n cael eu gohirio.
Dyma'r eildro i feddygon iau streicio ers mis Ionawr, wrth iddyn nhw honni eu bod nhw wedi colli tua traean o'u cyflog yn y 15 mlynedd ddiwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad ydyn nhw'n gallu fforddio talu mwy na'r cynnig codiad cyflog o 5%.
'Bydde'n rhaid i ni dorri o fewn yr NHS'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y gweinidog iechyd, Eluned Morgan: "Ni wedi cynnig codiad o 5% iddyn nhw a mae hwnna yn eu pocedi nhw'n barod, sef yr un peth â'r cynnig i bawb arall yn yr NHS, ond yn anffodus does dim mwy o arian gyda ni yn y llywodraeth.
"Ni eisoes wedi mynd rownd y cabinet i gyd yn gofyn am arian ychwanegol i helpu'r NHS.
"Ni wedi ffeindio tua £450m yn ychwanegol eleni a blwyddyn nesaf hefyd ond ma' hwnna jyst i helpu i roi'r cynnig 5%.
"Os bydden ni'n gorfod mynd yn bellach mi fydde'n rhaid i ni dorri ar yr arian o fewn yr NHS, a gyda'r pwysau ma' nhw dan ar hyn o bryd, mae hynny'n anodd dros ben wrth gwrs."
Dywedodd Ms Morgan: "Pan mae'r arian gyda ni rydyn ni'n cynnig gymaint ag y gallwn ni.
"Y llynedd roedd y cynnig lot yn uwch nag oedd e yn Lloegr ac mi ga'thon ni drafodaethau o ran newid cytundeb gyda'r BMA am feddygon iau cwpl o flynydde nôl.
"Os bydden nhw wedi derbyn hynny mi fydden ni mewn sefyllfa wahanol, ond wnaethon nhw ddim derbyn y cynnig yna yn 2022 a bydde hwnna wedi creu baseline gwahanol i ni."
"Mae 65% o'r arian ni'n gwario ar iechyd yng Nghymru yn mynd ar staff.
"Mae dros 100,000 o bobl yn gweithio i'r NHS yng Nghymru ac os y'n i eisiau codi cyflog unrhyw grŵp o' nhw yna mae hwnna'n arwain at alwadau gan grwpiau eraill hefyd, a dyna pam ni wedi cynnig 5% o godiad i bawb yn yr adran iechyd yng Nghymru.
"Ni'n deall bod gwerth yr arian wedi erydu a ni eisiau gweld y sefyllfa'n newid ond ar hyn o bryd gyda chyfyngderau cyllidebol, mae hynny'n anodd."
'Cleifion yn dioddef'
Ychwanegodd Ms Morgan: "Mae'r streiciau yn golygu bod cleifion yn mynd i ddioddef ac yn anffodus iawn, mae lot yn gweld eu operations nhw wedi canslo.
"Dwi'n credu tro diwethaf oedd 1,400 wedi cael eu gohirio a tua 22,000 o apwyntiadau allanol wedi cael eu gohirio, felly mae'n cael effaith ac mae'n effeithio ar rhestrau aros ni...
"Ond ni'n deall pam maen nhw'n neud e a pa mor rhwystredig ma' nhw'n teimlo, ond yn anffodus ni yn y sefyllfa gyfyngus yma o ran arian.
"Mae e yn ddrud achos ni'n talu'r constultans yn ychwanegol ac felly mae e'n arwain mewn i filiynau o bunnau.
"Ond y drafferth yw, chi'n gorfod ffeindio'r arian ychwanegol yna eleni, ond blwyddyn ar ôl blwyddyn ac wrth gwrs os chi'n rhoi codiad i un rhan, mae adrannau eraill yn galw am yr un peth."
Un o'r miloedd sy'n streicio ydi Gwenllian Roberts, sydd o Gaerdydd yn wreiddiol, a ymunodd â'r llinell biced ym Mangor.
"Mae'r streic yma a phob un sydd wedi bod yn barod yn ymwneud efo tâl teg i feddygon iau, felly y grŵp o ni sydd ddim yn consultants neu'n arbenigwyr eto...
"Mae angen tâl teg fel bod o'n matcho fo efo'r system sydd ar y llawr a faint o waith sydd 'na.
"'Da ni'n gweld cleifion yn ddyddiol sydd wedi colli apwyntiadau sydd wedi eu gohirio, ond mae'r streic yn ceisio sicrhau fod meddygon iau yn gallu bod yn y clinics yn y pendraw.
"Mae'r gwaith ei hun yn amrywio o orfod delio efo sgyrsiau anodd neu ddelio efo cleifion sy'n sâl iawn.
"Mae lot o bobl dan ein gofal ni, yn enwedig yn hwyr yn y nos neu dros nos.
"Mae nifer fawr o gleifion yn gallu bod o dan dîm bach iawn, sy'n gallu rhoi pwysau mawr arnon ni."
Fe benderfynodd Dr Deiniol Jones, sy'n feddyg iau ers pum mlynedd, ymuno â'r llinell biced yng Nghaerdydd.
"Dydyn ni ddim eisiau streicio... rydyn ni eisiau helpu pobl a gofalu am ein cleifion," meddai.
"Rydyn ni wedi trio siarad efo Llywodraeth Cymru ac yn anffodus maen nhw wedi penderfynu torri ein tâl eto ac mae'n rhaid i ni 'neud rhywbeth nawr.
"Mae tâl meddygon iau wedi gostwng 29% - y mwyaf o'r bobl sy'n gweithio i'r NHS - a does dim digon o feddygon...
"Mae meddygon wedi blino gormod, mae meddygon yn gadael felly mae'r sefyllfa yn wahanol i ni, ond mae pawb sy'n gweithio yn yr NHS angen tâl teg.
"Fi'n 'nabod llawer o bobl sydd wedi symud i weithio yn Awstralia... ma' tâl yn well a mae gwaith yn well.
"Ar hyn o bryd mae rhai pobl yn siarad am symud i'r Alban, Iwerddon neu Loegr hefyd achos maen nhw'n gwybod y cawn nhw fwy o dâl."
Mae'r gweithredu diwydiannol wedi dechrau am 07:00 ddydd Mercher ac mae'n para am dridiau.
Cafodd 22,258 o apwyntiadau allanol a 1,467 o driniaethau eu gohirio yn ystod eu streic ddiwethaf ym mis Ionawr.
Mae undeb y BMA wedi gwrthod cynnig cyflog o 5% gan Lywodraeth Cymru, sy'n dweud nad oes rhagor o arian i'w gynnig.
Bydd gofal brys yn parhau yn ystod y streic, a fydd yn dod i ben am 07:00 ddydd Sadwrn 24 Chwefror, ond mae gofyn i'r cyhoedd i beidio defnyddio'r ysbytai oni bai eu bod angen gofal brys.
Y cyngor i gleifion yw i gadw unrhyw apwyntiadau oni bai bod rhywun o'r bwrdd iechyd yn cysylltu i aildrefnu.
Mae disgwyl i lefel staffio ysbytai yn ystod cyfnod y streic fod yn debyg i wyliau banc.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd12 Ionawr