Plant yn mwynhau cael eu rhieni ar y bws i'r ysgol
Rhyw 10 munud yw'r daith fel arfer rhwng Machynlleth a phentref Pennal yn ne Gwynedd - taith sy'n amhosib am gyfnod yn sgil cau rhannau o'r A493 a'r A487 dros dro.
Mae'n rhaid gwneud gwaith draenio a gosod mesurau tawelu traffig wedi i'r bont newydd agor yn ddiweddar dros Afon Dyfi.
O ganlyniad, ers 10 Chwefror ac am gyfnod o hyd at fis, mae gyrwyr yn wynebu tua awr yn ychwanegol o daith rhwng y ddau le.
Roedd hynny yn amlwg am greu problem yn achos Ysgol Pennal, gan fod hanner ei disgyblion yn byw ym Machynlleth.
Yr ateb, yn dilyn trafodaethau rhwng yr ysgol, Cyngor Gwynedd a'r contractwyr, cwmni Griffiths, mae'r plant yn cael cerdded heibio'r gwaith ffordd er mwyn dal bws yr ochr draw sy'n eu cludo i'r ysgol.
Mae rhai o athrawon yr ysgol yn dal y bws hefyd, ond gan nad oes sicrwydd y bydd aelod o staff ar y bws bob dydd, mae'r ysgol wedi gofyn i rieni fod yn gyfrifol am eu plant hyd at giât yr ysgol.
Mae'n brofiad newydd i bawb wrth i rieni deithio gyda'u plant ar y bws i'r ysgol - ac yn un y mae'r mwyafrif i'w weld yn ei fwynhau.