'Pawb yn falch' o agor pont newydd Machynlleth

Pont newyddFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae pont newydd ar ffordd allweddol rhwng de a gogledd Cymru yn agor wedi tair blynedd o waith adeiladu.

Mae’r bont ar yr A487 dros Afon Dyfi ger Machynlleth wedi costio £46m.

Y gobaith yw lleihau problemau llifogydd cyson ar bont bresennol Pont-ar-Ddyfi.

Yn ôl un cwmni cludiant, mae’n “rhoi lot o sicrwydd” wrth redeg eu busnes o wybod fod y bont ar agor.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod hon yn enghraifft o ffordd maen nhw’n barod i’w hadeiladu yn dilyn polisi o beidio adeiladu ffyrdd newydd.

Yn aml mae’r A487 wedi gorfod cau o amgylch Pont-ar-Ddyfi oherwydd llifogydd, a hynny’n creu anawsterau i bobl leol a’r rhai sy’n teithio ar y brif ffordd orllewinol rhwng de a gogledd Cymru.

Yn ôl Cynghorydd Tref Machynlleth, Jim Honeybill, y gobaith yw bod y trafferthion hynny ar ben gyda’r bont newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jim Honeybill mi fydd y bont newydd yn arbed trafferthion mawr adeg llifogydd

Dywedodd: “Yn enwedig cerbydau brys, fel ambiwlansys. O’r bla'n, roedd pobl yn ardal Tywyn ac Aberdyfi yn gorfod teithio 12 milltir ychwanegol rownd Llanwrin [adeg y llifogydd] i gyrraedd Bronglais yn Aberystwyth.

"Os oedd gen ti rhywun sal nau babi ar y ffordd, roeddet ti’n trio cyrraedd ma mor gynted â phosib.”

“Dwi’n hapus iawn bod e wedi digwydd o’r diwedd. Ma lot o waith wedi bod yn mynd mlan ‘na. Mae Griffiths wedi bod yn gweithio’n galed i agor y bont.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae wedi cymryd 3 blynedd i adeiladu'r bont newydd

I’r rhai sy’n defnyddio'r A487 mae gweld loriau MDS yn teithio rhwng de a gogledd Cymru yn gyfarwydd.

Mae ‘na groeso mawr i’r bont newydd gan Scott Mansel Davies, un o gyfarwyddwyr y cwmni.

“Erbyn mis Mawrth, byddwn ni’n ‘neud tua 40 llwyth y dydd lan trwy Machynlleth.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Scott Mansel Davies yn dweud bod agor y bont newydd yn "rhoi sicrwydd" iddyn nhw

“Mae’r hen bont wedi bod yn drafferthus iawn i ni, yn enwedig dros y 10 mlynedd ddwetha'.

"Licsen i ddweud dylse’r bont newydd fod wedi bod 'ma ers 10 mlynedd, ond mae e da ni nawr.

“Ma’r hen bont, yn amlwg mae’r llifogydd yn cael effaith fawr arno fe, sydd yn amlwg yn meddwl gorfod mynd rownd Dinas Mawddwy yn lle ‘ny, sydd tua 30 munud yn fwy a 10 milltir yn fwy, ac yn anodd iawn i’r tîm sy’n ceisio trefnu’r gwaith i’r gyrrwyr, ond hefyd yn anoddach i’r gyrrwyr achos mae’r traffig i gyd yn mynd yr un ffordd ac mae’r hewlydd yn anoddach i gario arno.

"Mae agor y bont newydd yn rhoi lot o sicrwydd i ni."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr hen Bont-ar-Ddyfi yn gul iawn i lorïau ac roedd yn aml yn gorfod cau oherwydd llifogydd

Yn ôl Mr Davies mae'r ardal wedi bod yn "bottleneck mawr i fynd lan i ogledd Cymru".

"Ma' bottlenecks eraill ar ffyrdd Cymru yn enwedig yr M4 yn treial bwrw mewn i Loegr trwy’r twneli.

"Dwi’n credu taw dyna’r ddwy bottleneck fwya sydd gyda ni yng Nghymru," ychwanegodd.

"Mae’r ddau yn broblem i ni. Mae un wedi ei sorto nawr. Gobeithio geith y llall ei sortio rywbryd.”

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n adeiladu ffyrdd newydd, fel rhan o ymdrech i leihau allyriadau carbon.

Ond maen nhw’n dweud y byddam nhw’n parhau gyda chynlluniau sy'n gwella diogelwch, yn addasu i effeithiau newid hinsawdd neu'n gwella cysylltiadau economaidd.

Rhyddhad pobl Machynlleth

Disgrifiad o’r llun,

Mae Donald Williams Jones yn un o lawer sy'n falch o weld y bont newydd yn agor

Ym Machynlleth, mae pobl leol yn falch bod y bont yn agor o’r diwedd.

“Dwi’n cofio dod at y bont am 05:00 y bore a’r arwyddion road closed fyny”, medd Donald Williams Jones wrth hel atgofion am geisio croesi’r bont ar y ffordd i’r gwaith.

“Goffes i neud 3-point-turn a troi 'nôl a cymryd y ffordd hir i ddod i’r gwaith.

"Dwi’n credu fydd o help mawr pan fydd yn agor. Dwi’n credu bod pawb yn falch i weld o’n agor.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae agor y bont yn "beth positif i’r ardal", meddai Rhian Davies Jones, sy'n filfeddyg lleol

Fel milfeddyg sy’n gweithio o gwmpas ardal Machynlleth, mae Rhian Davies Jones yn credu y bydd yn bont newydd yn arbed llawer o drafferth iddi hi a ffermwyr sy’n ddibynnol ar ei gwasanaeth ar ddwy ochr y Ddyfi.

“Bydd e’n beth positif i’r ardal", meddai.

"Mae’n boen pan mae’r dŵr allan, yn enwedig ni fel milfeddygon, da ni’n trio mynd o un lle i’r llall.

"Bydd mwy o gyfle i bobl allu dod mewn ac allan o’r dre' heb gormod o oedi.”

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Rhodri Lloyd, "y bont, a chael mwy o bobl mewn i’r dre, dyna’n union beth sydd angen"

Mae 'na fudd economaidd i dref Machynlleth hefyd, medd Rhodri Lloyd.

“I gael pobl i ddod trwy’r dre', fel bod y dre' ddim yn marw, achos mae busnesau yn y dre' yn ddibynnol ar bobl yn gallu dod yma.

"Os oes rhywun yn meddwl bod hi’n haws mynd mwy i’r gogledd na’r canolbarth mae’r dre’n mynd i farw.

"Y bont – a cael mwy o bobl mewn i’r dre', dyna’n union beth sydd angen.”