'Fi'n deall y pryderon, ond yn cefnogi'r cynllun amaeth'

O gyfarfodydd tanllyd i brotestiadau mewn tractorau ar y ffyrdd, mae llawer o ffermwyr wedi gwneud hi'n amlwg yn yr wythnosau diwethaf pa mor anfodlon ydyn nhw gyda chynlluniau amaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r undebau'n dweud bod rhai o ofynion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy'n anymarferol ac mae eraill yn poeni y bydd y cynllun yn gorfodi rhai ffermwyr o'r diwydiant.

Ond mae ffermwyr eraill yn credu bod angen dulliau ffermio sy'n fwy caredig i'r amgylchedd, ac yn dweud eu bod yn ofni dweud eu bod nhw'n cefnogi'r cynllun dadleuol gan fod gymaint o ddicter ynghlwm â newidiadau posib i'r system daliadau.

Hywel Morgan, o Fyddfai, Sir Gaerfyrddin yw cadeirydd Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur Cymru - grŵp sy'n cynrychioli tua 500 o ffermwyr yng Nghymru.

Dywedodd wrth Ohebydd Amgylchedd BBC Cymru, Steffan Messenger, bod y cynllun ddim yn berffaith, ond bod ymgynghoriad y llywodraeth yn gyfle i awgrymu gwelliannau posib.