Ffermwyr yn 'ofni codi llais' o blaid cynllun dadleuol
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr sy'n gefnogol o newid cymorthdaliadau er lles yr amgylchedd wedi dweud eu bod yn teimlo'n ofnus i godi llais.
Dywedodd un iddo gael ei gyhuddo mewn cyfarfod cyhoeddus o weithio i'r llywodraeth.
Mynnu bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy'n anymarferol mae undebau amaeth, a'r sefyllfa wedi arwain at brotestio drwy Gymru yn ddiweddar.
Ond mae Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur Cymru wedi dweud nad yw "parhau â busnes fel arfer" yn opsiwn.
'Gymaint o ddicter'
Hywel Morgan, o Fyddfai, Sir Gaerfyrddin sy'n cadeirio'r grŵp, sy'n cynrychioli tua 500 o ffermwyr yng Nghymru.
Mae ffermwyr sy'n cefnogi'r newidiadau i'w taliadau yn teimlo "eu bod nhw'n ffili dweud eu barn yn y cyfarfodydd yma sy' 'di trefnu gan yr undebau a Llywodraeth Cymru", meddai.
"Mae 'na gymaint o ddicter a backlash - mae'r cyfan braidd yn unochrog a social media wedi mynd yn wyllt.
"Fi yn deall pryderon nhw ond fi'n credu os ni mo'yn arian y cyhoedd mae'n rhaid derbyn bod rhaid ni neud rhwbeth yn wahanol ar ei gyfer e."
Nid dim ond y llywodraeth sy'n galw am newidiadau, meddai - ond cymdeithas hefyd.
Y bwriad yw bod Cynllun Ffermio Cynaliadwy'r llywodraeth yn dechrau cael ei gyflwyno o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Bydd yn disodli'r hen daliadau o'r cyfnod pan oedden ni'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd - system oedd yn talu'n bennaf ar sail faint o dir oedd yn cael ei ffermio.
Dan y drefn newydd bydd raid i ffermydd ymrwymo i ofynion sydd fod i wobrwyo dulliau cynaliadwy o amaethu - gan gynnwys yr elfen fwyaf dadleuol sef coed ar 10% o'u tir.
Dywedodd Mr Morgan ei fod wedi paratoi ei fferm ar gyfer y newidiadau ers blynyddoedd, gan annog ffermwyr i "weld coed fel rhwbeth buddiol ar gyfer eich busnes".
Fe ddisgrifiodd ei goetir yntau fel rhan "amhrisiadwy" o'r fferm, gan ddarparu cysgod i'w anifeiliaid, ffynhonnell pren a chynefin i fywyd gwyllt.
Roedd nifer o ofynion y cynllun newydd yn ymwneud ag atal tirfeddianwyr nad oedd yn ffermio rhag hawlio taliad, awgrymodd, fel bod y cyllid yn mynd i ffermwyr go iawn.
Byddai mynd i'r afael â'r newidiadau yn gyfle i annog "ffermwyr ifanc i ddod mwy involved yn amaeth" hefyd.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "swyddogion wedi cwrdd â'r Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur Cymru yn gyson trwy gydol eu cyfnod yn cynllunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy".
'Angen atebion, nid just dweud na'
Mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar i drafod y cynlluniau, dywedodd i un ffermwr sefyll ar ei draed, pwyntio ato a'i gyhuddo o weithio i Lywodraeth Cymru.
"Dwi'n ffermwr balch, a dyna dwi mo'yn ar gyfer fy mab a'm wyrion hefyd," meddai Mr Morgan.
Tra bod 'na agweddau o'r cynllun nad yw'n 100% yn hapus â nhw, fe ddywedodd y dylai ffermwyr fod yn "awgrymu atebion yn hytrach na just dweud na".
"Consultation yw e - dodwch eich response mewn. Gwedwch be sy'n pryderu chi ond dewch â solution gyda chi. Mae'n rhaid ni ddod â solution i'r bwrdd."
Mae galwad i oedi'r ymgynghoriad a dechrau o'r dechrau gyda'r cynllun yn ei bryderu.
"Ry'n ni wedi bod yn siarad am hyn ers 2016. Ry'n ni mewn argyfwng hinsawdd a natur a byddai oedi ond yn 'neud pethau'n waeth.
"Fel mae hi nawr mae oedran ffermwyr yn mynd yn henach a ma' isie dod 'r ffermwyr ifanc mewn."
Cynllun 'amherffaith' y gellir ei addasu
Mae Ifan Davies a'i ferch Rhiannon, sy'n ffermio 220 erw ger pentre' anghysbell Cefn Coch ym Mhowys, yn aelodau o'r rhwydwaith.
Mae gan y fferm ardaloedd o goed, pyllau dŵr, perthi a choridorau bywyd gwyllt, eglurodd Rhiannon, sy'n gweld y cynllun cymhorthdal newydd fel "siawns dda i bob fferm yng Nghymru bod yn fwy sustainable a gweithio gyda natur".
Ond mae'r ddau'n dweud eu bod yn cydymdeimlo'n llwyr â'r protestwyr, gan ddweud nad yw'r cynllun "yn berffaith o gwbl".
"Dwi'n meddwl mae eisiau ni ceisio gweithio efo'r llywodraeth i newid y manylion bach sy'n neud gwahaniaeth fawr i ni," eglurodd Ifan.
Mae'r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir faint o arian sydd ar gael i ffermwyr yn broblem, meddai, gan ddweud hefyd y dylai'r cynlluniau fod wedi'u treialu ar ffermydd peilot.
Ond dyw e ddim am weld y cyfan yn cael ei daflu o'r neilltu: "Mae 'na chydig o bethe sy'n eitha 'da, dwi'n credu, a ma' 'na chydig o bethe sy' angen tamed bach o waith."
Wrth i brotestiadau ffermwyr barhau, mae grwpiau amgylcheddol wedi annog y cyhoedd i gyfrannu at yr ymgynghoriad terfynol hefyd, cyn iddo gau ar 7 Mawrth.
Dywedodd y cyflwynydd teledu Iolo Williams, llysgennad Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru, ei fod yn "allweddol bod pobl yn dangos eu cefnogaeth i ffermwyr sy'n ffermio mewn ffordd sy'n gyfeillgar i natur".
"Ry'n ni'n gwybod bod nifer o ffermydd yn adfer natur ar eu ffermydd, yn gwarchod afonydd rhag llygredd a chynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy drwy leihau defnydd plaladdwyr a gwrtaith," meddai.
"Dyma'r fath o ffermio y mae cymaint ohonom ni am weld ar draws Cymru."
Dywedodd Alexander Phillips, rheolwr polisi WWF Cymru, nad oedd hen daliadau'r Undeb Ewropeaidd wedi bod "yn grêt i ffermwyr Cymru o ran hyfywedd busnes nifer o ffermydd".
Dywedodd bod oddeutu 8,000 o swyddi wedi'u colli o amaeth yng Nghymru rhwng 2010-20.
"Bydd effaith y newid yn yr hinsawdd ond yn gwaethygu hyn wrth i'r pwysau a chostau gynyddu."
Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i weithredu a "rhoi system yn ei le fydd yn arwain at ffermio cynaliadwy yng Nghymru," meddai.
Tra bod y cynllun presennol ddim yn berffaith, roedd yn "gynnig da i wneud hynny".
"Mae'n cynrychioli gwellhad o'r hyn oedd gyda ni o'r blaen a mae ffermwyr natur gyfeillgar ar draws y wlad yn dweud wrthon ni eu bod am weld mwy o hyn."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae wedi cwrdd yn rheolaidd gyda ffermwyr o'r Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur Cymru gydol y broses o lunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Ychwanegodd llefarydd bod "manteision eu hagwedd at ffermio cynaliadwy yn gyson" ag amcanion rheoli tir y cynllun a bod y llywodraeth yn eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2023