Costau gofal yn y cartref: 'Sgen i ddim arian sbâr'

Mae dyn â sglerosis ymledol (MS) yn dweud y bydd yn rhaid iddo werthu ei dŷ pe bai'r hyn mae'n ei dalu am ofal yn codi.

Bu'n rhaid i Glyn Jones, 50, ymddeol bum mlynedd yn ôl oherwydd bod ei gyflwr yn gwaethygu.

Yn wreiddiol o Ddolwyddelan yn Sir Conwy, mae bellach yn byw yng Nghaerdydd, ac yn defnyddio cadair olwyn drwy'r amser.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cynyddu'r uchafswm mae unigolion yn talu ar gyfer gofal yn y cartref.

Mae elusennau anabledd yn dweud eu bod yn bryderus am y sefyllfa, a bod pobl eisoes yn cael trafferth talu.