Dyn anabl yn poeni am orfod gwerthu tŷ i dalu am ofal

Disgrifiad,

"Does gen i ddim arian sbâr," meddai Glyn Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn â sglerosis ymledol (MS) yn dweud y bydd yn rhaid iddo werthu ei dŷ pe bai'r hyn mae'n ei dalu am ofal yn codi.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cynyddu’r uchafswm mae unigolion yn talu ar gyfer gofal yn y cartref.

Mae elusennau anabledd yn dweud eu bod yn bryderus am y sefyllfa, a bod pobl eisoes yn cael trafferth talu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod awdurdodau lleol yn wynebu “pwysau ariannol dwys o ganlyniad i chwyddiant uchel a galw cynyddol am eu gwasanaethau”.

'Bydd rhaid i fi roi’r tŷ ar y farchnad'

Bu'n rhaid i Glyn Jones, 50, ymddeol bum mlynedd yn ôl oherwydd bod ei gyflwr yn gwaethygu.

Yn wreiddiol o Ddolwyddelan yn Sir Conwy, mae bellach yn byw yng Nghaerdydd, ac yn defnyddio cadair olwyn drwy’r amser.

Yn llwyr ddibynnol ar ofalwyr, mae’n cael cymorth ganddyn nhw i godi o’r gwely, gwisgo, ymolchi a bwyta.

Mae’r gofalwyr yn ymweld ag ef bedair gwaith y dydd yn ei gartref, ac mae’n talu’r uchafswm presennol am y gwasanaeth - £400 y mis.

Mae Glyn yn derbyn pensiwn preifat o’i swydd flaenorol a Thaliad Annibyniaeth Personol (PIP) – budd-dal i bobl sydd ag anabledd, sy’n £400 y mis.

Mae’n defnyddio’r taliad PIP i dalu am ei ofal ond mae’n poeni nad oes ffordd iddo ennill cyflog eto, ac mae’n gwario ei gynilion yn sgil costau byw uwch.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Glyn Jones yn dweud bydd rhaid iddo werthu ei dŷ er mwyn fforddio'r costau

“Ma’ ‘na ias yn rhedeg lawr fy nghefn i,” meddai Glyn wrth feddwl am y newidiadau.

“Dim jyst oherwydd fi - dwi’n eitha' lwcus oherwydd bo' gen i bensiwn - ond ma' 'na bobl allan yna, ffrindiau efo MS a gwahanol bethe, sy’n dibynnu ar y gwasanaethau maen nhw’n cael gan eu gofalwyr,” meddai.

“Bob mis fel arfer fydda i mewn overdraft erbyn diwedd y mis, yn aros nes fydd yr arian PIP yn dod fewn.

“Yn annhebyg i bensiynwyr, ma' gen i forgais dwi’n dal i dalu. Ges i ddim siawns i weithio tan fy 60au i dalu’r morgais i ffwrdd.

“Yr unig ffordd alla i greu arian sbâr ydy gwerthu’r tŷ a symud i fyw i rhywle llai, gyda llai o forgais.

“O fewn y misoedd nesa ‘ma bydd rhaid i fi roi’r tŷ ar y farchnad."

'Pwysau aruthrol' ar gyllid cynghorau

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod traean o oedolion sy’n derbyn gofal cartref yn talu’r uchafswm wythnosol.

Yng Nghymru mae pobl yn talu’r uchafswm dim ond os oes gan yr unigolyn gynilion o dros £24,000, heb gynnwys gwerth eu cartref.

Mae cynghorau’n dweud eu bod yn wynebu bwlch o £646m yn eu cyllideb ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol dros y tair blynedd nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny o Gyngor Sir Gâr ei fod yn credu y byddai cynyddu’r cap o £100 i £120 yr wythnos yn rhesymol

Mae’r Cynghorydd Alun Lenny yn aelod o gabinet Cyngor Sir Gâr ac yn gyfrifol am gyllid.

Mae’n dweud bod diffyg ariannu yn y maes wedi gadael bwlch o tua £5m eleni yn Sir Gâr. 

“Oherwydd y diffyg ariannu yma mae pwysau aruthrol ar y cyllid ac ar y gwasanaeth," meddai.

"Dyw’r cap heb godi ers pedair blynedd.

"Does 'na ddim cap yn Lloegr – bydden i ddim yn cytuno â hynny  - ond dwi’n credu bydde edrych ar £120 yn rhesymol o gofio chwyddiant, codiadau cyflog a chostau eraill dros y bedair blynedd ddiwetha'."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Josh Law byddai cynnydd mewn costau gofal yn rhoi mwy o bwysau ar y gwasanaethau iechyd

Mae elusennau yn dweud ei fod yn gyfnod “pryderus” i bobl, o gofio’r cynnydd sylweddol mewn costau byw.

Dywedodd Josh Law o Fforwm Cymru Gyfan - elusen sy’n cynrychioli’r rhai sy’n gofalu am unigolion ag anableddau dysgu - mai Cymru sydd â’r ganran uchaf o wledydd Prydain o bobl gydag anableddau sydd o fewn oed gweithio.

Dywedodd byddai’r cynnydd mewn costau yn lleddfu rhywfaint ar y sefyllfa ond y byddai’r pwysau yn symud i wasanaethau eraill.

“Y peth 'dan ni’n pryderu am – fydd e ddim yn llenwi’r twll – fydd e’n cael lot o effaith ar bobl yng Nghymru yn enwedig oherwydd bod lot yn gweithio ac yn cael gofal yn y cartref,” meddai.

“I ddweud y gwir bydd e’n cael effaith yn rhywle arall.

"Os byddan nhw’n cael llai o ofal yn y cartref, mae’n siŵr bydd rhaid iddyn nhw gael mwy o ofal yn y gwasanaeth iechyd.”

'Pwysau ariannol dwys'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod awdurdodau lleol yn wynebu “pwysau ariannol dwys o ganlyniad i chwyddiant cyson uchel a galw cynyddol am eu gwasanaethau”.

“Nid yw ein setliad, sy’n dod yn bennaf ar ffurf grant bloc gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ddigon i ymateb i’r holl bwysau y mae gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu.

“Rhaid i ni ystyried yn ofalus yr achos o blaid ac yn erbyn codi taliadau am rai gwasanaethau ac rydym wedi lansio ymgynghoriad ar daliadau gofal yn y cartref.”

Ychwanegodd eu bod yn annog pawb i ddweud eu dweud ar y mater.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod Llywodraeth Cymru wedi’u “hariannu’n dda i gyflawni eu cyfrifoldebau datganoledig gan eu bod yn cael setliad o £18bn y flwyddyn, sef y mwyaf ers datganoli”.