RNLI Pwllheli: 'Defnyddio'r ddwy iaith ddim yn broblem'
Mae gorsaf bad achub Pwllheli, a wnaeth gau yn dilyn "methiant difrifol" yn y berthynas rhwng aelodau o'r criw yno, bellach yn dechrau hyfforddi unwaith eto.
Daeth yr holl wasanaethau ym Mhwllheli i stop nôl ym mis Awst y llynedd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
O ganlyniad, fe gafodd holl griw'r orsaf wybod eu bod yn rhoi'r gorau i wasanaethu yno ddechrau'r mis oherwydd "rhaniadau parhaus ac anghydweld" yn yr orsaf.
Mae dwy ran o dair o'r criw bellach wedi cytuno i ddychwelyd fel gwirfoddolwyr, gyda'r bwriad o ddechrau gweithrediadau'r orsaf fis nesaf.
Mae'r RNLI hefyd wedi gwrthod honiadau bod y defnydd o'r Gymraeg yn broblem, yn dilyn adroddiadau mewn papur newydd cenedlaethol yn ddiweddar.
Mae cadeirydd y grŵp rheoli yng ngorsaf RNLI Pwllheli, Gerallt Williams, yn dweud bod yna "groeso i bawb ymuno â ni yma ym Mhwllheli".