RNLI Pwllheli yn ailhyfforddi ar ôl 'methiant difrifol'
- Cyhoeddwyd
Mae gorsaf bad achub Pwllheli, a wnaeth gau yn dilyn "methiant difrifol" yn y berthynas rhwng aelodau o'r criw yno, bellach yn dechrau hyfforddi unwaith eto.
Daeth yr holl wasanaethau ym Mhwllheli i stop nôl ym mis Awst y llynedd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
O ganlyniad, fe gafodd holl griw'r orsaf wybod eu bod yn rhoi'r gorau i wasanaethu yno ddechrau'r mis oherwydd "rhaniadau parhaus ac anghydweld" yn yr orsaf.
Mae dwy ran o dair o'r criw bellach wedi cytuno i ddychwelyd fel gwirfoddolwyr, gyda'r bwriad o ddechrau gweithrediadau'r orsaf fis nesaf.
Ond fe wnaeth rhai gwirfoddolwyr yr orsaf adael, gan ddweud nad oedden nhw'n hapus gyda'r ffordd y cafodd yr ymchwiliad ei gynnal.
'Cyfnod heriol'
Yn ôl yr RNLI, maen nhw'n hyderus fod eu prosesau wedi'u dilyn yn deg yn ystod yr ymchwiliad.
"Mae wedi bod yn gyfnod heriol i'r criw yma ym Mhwllheli. Rydym wedi cynnal ymchwiliad cadarn a thrylwyr," meddai Danielle Rush, un o swyddogion yr RNLI yn y rhanbarth.
"Daeth i'r amlwg fod yna raniadau parhaus, felly fe wnaethon ni gymryd y cam yna i ddod â gweithredu'r orsaf i ben am y tro."
Bydd hyfforddiant i'r criwiau ar y tir a chriwiau'r bad achub yn para am bythefnos, cyn i'r cwch llai, sef y D-Class, ddychwelyd i wasanaeth yn fuan.
Mae'r gwirfoddolwyr yn gobeithio y bydd y cyfnod o ddychwelyd i hyfforddi yn un llwyddiannus ar gyfer y cwch yma, a'r gobaith yn y dyfodol ydi y bydd modd i'r cwch llawer mwy - y Shannon, sy'n gallu mynd allan ym mhob tywydd - ddychwelyd hefyd.
Cafodd bad achub y Shannon ei atal rhag gweithredu o'r orsaf yn ystod yr anghydfod, ac yn y cyfamser mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion hyfforddiant mewn canolfannau RNLI eraill.
Defnydd o'r Gymraeg yn broblem?
Mae un oedd yn arfer gwirfoddoli yn yr orsaf, sydd wedi penderfynu peidio dychwelyd yno, wedi dweud wrth BBC Cymru fod ganddyn nhw bryderon o hyd am weithrediadau'r orsaf.
Roedd llythyr at yr RNLI hefyd yn cwestiynu pa mor annibynnol oedd yr ymchwiliad a pha mor drylwyr oedd yr ymchwiliadau i'r cwynion a godwyd.
Mewn datganiad dywedodd yr RNLI: "Cafodd yr ymchwiliad ei gwblhau gan reolwyr profiadol a chafodd pob aelod o'r criw gyfle i rannu gwybodaeth a siarad gyda ni yn gyfrinachol.
"Lle bo'n briodol, cymerwyd camau ac rydym yn hyderus bod prosesau wedi'u dilyn yn deg."
Mae'r RNLI hefyd wedi gwrthod honiadau bod y defnydd o'r Gymraeg yn broblem, yn dilyn adroddiadau mewn papur newydd cenedlaethol yn ddiweddar.
"Yn ein gorsafoedd badau achub lle mae cymunedau Cymraeg, fel yma ym Mhwllheli, rydym yn cydnabod hynny yn ystod hyfforddiant ac yn gymdeithasol, bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio," meddai Ms Rush.
"Mae'n gallu bod o gymorth pan mai'r Gymraeg yw'r iaith gyntaf. Mae'n helpu gyda'r hyfforddi a mentora."
Ond ychwanegodd bod elusen y bad achub hefyd yn cydnabod mai Saesneg oedd yr "iaith forwrol sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol".
"Mae'n bwysig iawn bod y Saesneg yn cael ei defnyddio ar fwrdd y bad achub, mewn sefyllfaoedd a allai fod yn wirioneddol anodd, a bod pawb yn deall gorchmynion.
"Fel rhan o'r ymchwiliad, byddwn yn edrych ar ein polisïau amlieithrwydd, ac yn edrych ar hyfforddiant i sicrhau bod pawb yn deall y gorchmynion priodol hynny i'w defnyddio ar fwrdd y bad achub."
Yn ôl cadeirydd y grŵp rheoli yng ngorsaf Pwllheli, Gerallt Williams, "mae'r teimladau ymysg y criw yn bositif iawn".
"Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at fynd yn ôl at yr hyn rydyn ni wedi'n hyfforddi i'w wneud, i fynd allan ac achub bywydau ar y môr.
"Mae pawb mor frwd ac yn awyddus iawn i fynd ati gyda'r gwaith."
Dywedodd Mr Williams ei fod yn awyddus i ddiolch i'r gymuned leol am eu "hamynedd a'u cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn".
"Dwi'n obeithiol iawn y byddwn ni'n gweld y Shannon yn dychwelyd yma i Bwllheli. Dyna ydi'n nod ni yn y pendraw."
'Sefydliad amrywiol a chynhwysol'
Dywedodd rheolwyr yr RNLI fod yr elusen "yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad amrywiol a chynhwysol" a'u bod yn hyderus eu bod wedi delio â'r ymchwiliad yn briodol.
"Mae dwy ran o dair o'r criw yn ôl yma, mae gennym ni'r bad achub yn ôl ar y dŵr, rydyn ni nawr yn dymuno'r gorau iddyn nhw gyda'r hyfforddiant ac mae'r criw yn awyddus iawn i fynd yn ôl i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau," ychwanegodd Ms Rush.
Un o'r rheiny ydi Caroline Jones, aelod o'r tîm sydd ar y lan.
"Mae bywyd wedi bod ychydig yn dawelach dros y misoedd diwethaf, felly rwy'n edrych ymlaen at ddechrau nôl ac mae'n mynd i fod yn brysur iawn o heddiw ymlaen," meddai.
"Mae'n dref hwylio, mae yna bobl ar y môr drwy'r amser, mae'n fae cysgodol - pobl ar eu byrddau padlo, eu kayaks - felly mae'n bwysig cael cwch fel y D-Class sy'n gallu mynd allan yn gyflym iawn i achub bywydau sydd mewn perygl ar y môr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
- Cyhoeddwyd1 Chwefror