Modlen Gwynne: 'Cyfle arbennig i dîm Aberystwyth'

Dywed un o chwaraewyr ieuengaf tîm pêl-droed merched Aberystwyth y byddai ei diweddar dad wedi bod mor falch ohoni hi a gweddill y tîm wrth iddyn nhw sicrhau lle yn haen uchaf y brif adran.

Bu farw Eifion Gwynne, a oedd yn chwaraewr rygbi dawnus, wedi iddo gael ei daro gan gar yn Sbaen ym mis Hydref 2016.

Bellach mae ei ferch Modlen, 16, yn un o sêr tîm hŷn merched Aberystwyth wedi i brofion asesu Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddangos ei bod yn gymwys i chwarae ar lefel uwch.

Dywed bod cael chwarae yn haen uchaf yr Adran Premier yn "gyfle arbennig".