Eifion Gwynne: Crwner yn cofnodi marwolaeth drwy anffawd
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi cofnodi achos o farwolaeth drwy anffawd yng nghwest Eifion Gwynne o Aberystwyth.
Cafodd y trydanwr 41 oed ei ladd ar 22 Hydref y llynedd yn ystod ymweliad â Sbaen i fynychu angladd tad ei ffrind.
Dywedodd y crwner Peter Brunton ei fod wedi dioddef anafiadau difrifol i'w frest ar ôl cael ei daro gan gar ar ffordd yr A7 yn Estepona, yn ne'r wlad.
Digwyddodd y ddamwain am 05:35 y bore hwnnw, wrth i Mr Gwynne gerdded yn ôl i'r gwesty ble roedd yn aros.
'Dim digon o wybodaeth'
Darllenodd y crwner ddatganiad gan ffrind i Eifion Gwynne yn disgrifio sut y bu'r ddau yn yfed gyda'i gilydd mewn sawl bar ar ôl yr angladd yn Sbaen.
Yn ôl y crwner roedden nhw wedi bod allan am tua saith awr, cyn gwahanu am 05:00 y bore.
Aeth Eifion Gwynne mewn i dacsi i fynd yn ôl i'w westy, taith o ryw bedair milltir, a dywedodd ei ffrind ei fod o gwmpas ei bethau ac yn "gallu rhesymu" ar y pryd.
Ond ychydig yn ddiweddarach roedd Mr Gwynne yn cerdded ar ffordd ddeuol yn agos at y gwesty pan gafodd ei daro gan gar oedd yn teithio ar gyflymder o 50 milltir yr awr.
Cafodd anafiadau difrifol i'w frest a bu farw yn yr ysbyty rai oriau'n ddiweddarach.
Ar ôl y cwest dywedodd teulu Eifion Gwynne eu bod nhw - fel y crwner - yn siomedig nad oedden nhw wedi cael rhagor o wybodaeth gan yr awdurdodau yn Sbaen.
Fe ofynnon nhw pam nad oedd gyrrwr y tacsi wedi cael ei holi er mwyn deall ble roedd Mr Gwynne wedi cael ei ollwng, er mwyn ceisio deall pam roedd yn cerdded ar y ffordd fawr yn oriau man y bore.
Roedd Eifion yn gymeriad adnabyddus a phoblogaidd yn Aberystwyth, ac yn gyn-chwaraewyr gyda thimau rygbi Llanymddyfri ac Aberystwyth.
Fe wnaeth dros 1,200 o bobl fynychu ei angladd yng nghapel Morfa, Aberystwyth ym mis Tachwedd, cyn iddo gael ei gladdu ym Mynwent Plascrug yn y dref.
Wrth gofnodi casgliad o farwolaeth trwy anffawd estynnodd y crwner ei gydymdeimlad dwysaf i deulu Mr Gwynne.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd28 Mai 2017