Watkin yn gobeithio creu argraff gyda Roberts yn y canol

Mae canolwr Cymru Owen Watkin yn ffyddiog y gall ef a Joe Roberts ffurfio partneriaeth ddisglair yn nghanol cae yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.

Cafodd y ddau eu dewis, er syndod i nifer, ar draul George North a Nick Tompkins - sydd wedi datblygu partneriaeth sefydlog i Gymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dyma fydd ail gap Roberts, wedi iddo wneud ei unig ymddangosiad dros Gymru hyd yma yn erbyn Lloegr mewn gêm baratoi ar gyfer Cwpan y Byd y llynedd.

Dyw North - sydd wedi ennill 120 o gapiau rhyngwladol - na Tompkins wedi'u henwi ar y fainc 'chwaith.