Roberts a Watkin i gymryd lle North a Tompkins i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Joe RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Joe Roberts ei unig gap hyd yma i Gymru yn erbyn Lloegr cyn Cwpan y Byd y llynedd

Bydd Joe Roberts ac Owen Watkin yn cymryd lle George North a Nick Tompkins fel canolwyr wrth i Gymru groesawu Ffrainc i Gaerdydd yn y Chwe Gwlad ddydd Sul.

Dyma fydd ail gap Roberts, wedi iddo wneud ei unig ymddangosiad dros Gymru hyd yma yn erbyn Lloegr mewn gêm baratoi ar gyfer Cwpan y Byd y llynedd.

Dyw North - sydd wedi ennill 120 o gapiau rhyngwladol - na Tompkins wedi'u henwi ar y fainc 'chwaith.

Mae Warren Gatland hefyd wedi penderfynu symud y capten Dafydd Jenkins o'r ail reng i fod y flaenasgellwr - y tro cyntaf erioed iddo ddechrau yn y safle yma fel chwaraewr proffesiynol.

Will Rowlands fydd yn bartner i Adam Beard yn yr ail reng felly, gyda'r blaenasgellwr Alex Mann yn symud i'r fainc.

Bydd Ryan Elias yn dechrau fel bachwr, yn yr olaf o bum newid i'r tîm a gafodd eu trechu yn Nulyn.

George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae George North wedi bod yn un o chwaraewyr gorau Cymru yn y Chwe Gwlad eleni hyd yma

Dywedodd Gatland fod "ambell newid yr wythnos hon gan bod rhai chwaraewyr yn haeddu cael cyfle a munudau ar y maes".

"Does dim amheuaeth y bydd y gêm yr arbennig o gorfforol - yn enwedig felly ymhlith y blaenwyr.

"Bydd Ffrainc yn bendant yn ceisio dechrau'r gêm ar garlam ac yn hynod galed hefyd.

"Bydd yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gorfforol, yn gyflym ac yn ddisgybledig o'r chwiban gyntaf. Unwaith eto ry'n ni'n edrych am berfformiad 80 munud.

"Mae'r garfan yn gyffrous am y ffaith ein bod yn chwarae ein dwy gêm olaf yn Stadiwm Principality o flaen ein cefnogwyr angerddol."

Dafydd JenkinsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Dafydd Jenkins yn dechrau fel rhif 6 am y tro cyntaf yn ei yrfa broffesiynol

Mae Cymru wedi colli eu tair gêm gyntaf yn y bencamwpriaeth eleni, gartref yn erbyn Yr Alban ac oddi cartref yn Lloegr ac Iwerddon.

Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Principality am 15:00 brynhawn Sul.

Tîm Cymru i herio Ffrainc

Cameron Winnett; Josh Adams, Joe Roberts, Owen Watkin, Rio Dyer; Sam Costelow, Tomos Williams; Gareth Thomas, Ryan Elias, Keiron Assiratti, Will Rowlands, Adam Beard, Dafydd Jenkins (capt), Tommy Reffell, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Elliot Dee, Corey Domachowski, Dillon Lewis, Mackenzie Martin, Alex Mann, Gareth Davies, Ioan Lloyd, Mason Grady.