Joe Allen: 'Caerdydd ddim yn ffefrynnau'

Cyn gêm ddarbi de Cymru ddydd Sadwrn, mae Joe Allen wedi bod yn hel atgofion am sgorio ei gôl broffesiynol gyntaf, a hynny dros Abertawe yn erbyn Caerdydd mewn gêm gyfartal 2-2 yn 2009.

Mae Allen yng ngharfan Abertawe ar gyfer y gêm yn Stadiwm Swansea.com, ac er bod Caerdydd wedi ennill pedair gêm yn olynol yn y Bencampwriaeth tydi o ddim yn meddwl fod hynny'n golygu mai'r Adar Gleision sy'n cychwyn fel ffefrynnau.