Y Coridor Ansicrwydd: Dechrau Ramsey yn erbyn Y Ffindir?

A fydd Aaron Ramsey yn dechrau i Gymru yn erbyn Y Ffindir yng ngemau ail-gyfle Euro 2024?

Dyna un o bynciau trafod Owain Tudur Jones a Malcom Allen ar y bennod ddiweddaraf o'r Coridor Ansicrwydd.

Mae capten Cymru wedi ei gynnwys yng ngharfan Robert Page er nad ydi o wedi dechrau gêm ers mis Medi oherwydd anaf i'w ben-glin.

Bydd Cymru yn wynebu'r Ffindir yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau, 21 Mawrth a bydd enillwyr y gêm honno yn chwarae gartref yn erbyn Gwlad Pwyl neu Estonia yn y rownd derfynol ar nos Fawrth, 27 Mawrth.

Y Coridor Ansicrwydd ar BBC Sounds.