Merched y Wawr: 'Ein dyled ni yn fawr i Zonia Bowen'

Mae Zonia Bowen, a sefydlodd mudiad Merched y Wawr, wedi marw yn 97 oed.

O dan ei harweiniad fe wnaeth cangen Sefydliad y Merched y Parc benderfynu ffurfio mudiad eu hunain ar ôl i swyddogion wrthod caniatáu iddyn nhw weinyddu'r gangen trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, bod dyled y mudiad iddi yn fawr.

"O'dd y 60au yn amser chwyldroadol ac o ran y Gymraeg, mi'r oedd Zonia yn berson oedd yn angerddol dros y Gymraeg a Chymreictod," meddai.

"O'dd hi'n ddylanwadol iawn hefyd, mi'r oedd 'na griw o ferched pwerus iawn yn y Parc heb iddyn nhw sylweddoli ar y pryd dwi'n credu, yr hyn o'n nhw'n arwain ar draws Cymru.

"Yn y dyddiau cynnar pan o'dd technoleg yn dra wahanol i be' yw e nawr, ma'r ffaith iddi lwyddo i fod yn olygydd ar y cylchgrawn am chwe blynedd lle odd technoleg yn hollol wahanol yn wych.

"O ran y Gymraeg a Chymreictod a sefydlu'r mudiad, mi'r oedd Zonia Bowen yn allweddol o bwysig ac mae'n dyled ni'n fawr iddi a hoffen i ar ran y mudiad gydymdeimlo'n ddwys gyda'r teulu oll."