Sylfaenydd Merched y Wawr, Zonia Bowen, wedi marw yn 97 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Zonia Bowen, a sefydlodd mudiad Merched y Wawr, wedi marw yn 97 oed.
O dan ei harweiniad fe wnaeth cangen Sefydliad y Merched y Parc benderfynu ffurfio mudiad eu hunain ar ôl i swyddogion wrthod caniatáu iddyn nhw weinyddu'r gangen trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ms Bowen oedd Ysgrifennydd Cenedlaethol cyntaf Merched y Wawr a golygydd cyntaf cylchgrawn 'Y Wawr'.
Torrodd bob cysylltiad â Merched y Wawr yn 1976, gan ymddiswyddo fel Llywydd Anrhydeddus.
Cafodd ei magu yn Swydd Efrog a dechreuodd ddysgu Cymraeg pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn yr 1940au yn astudio Ffrangeg.
Yn ddiweddarach dysgodd Lydaweg hefyd a chyhoeddodd lyfrau dysgu Llydaweg cyfrwng Cymraeg.
Roedd hi a'i diweddar ŵr, y cyn-Archdderwydd Geraint Bowen, yn flaenllaw yn ymgyrch MADRYN yn erbyn claddu gwastraff niwclear yng nghanolbarth Cymru yn yr 1980au.
Bu hefyd yn weithgar gyda Dyneiddwyr Cymru ac yn 2015 fe gyhoeddodd ei hunangofiant 'Dy Bobl Di Fydd fy Mhobl i'.
Ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr:
"O'dd y 60au yn amser chwyldroadol ac o ran y Gymraeg, mi'r oedd Zonia yn berson oedd yn angerddol dros y Gymraeg a Chymreictod...
"O'dd hi'n ddylanwadol iawn hefyd, mi'r oedd 'na griw o ferched pwerus iawn yn y Parc heb iddyn nhw sylweddoli ar y pryd dwi'n credu, yr hyn o'n nhw'n arwain ar draws Cymru.
"Yn y dyddiau cynnar pan o'dd technoleg yn dra wahanol i be' yw e nawr, ma'r ffaith iddi lwyddo i fod yn olygydd ar y cylchgrawn am chwe blynedd lle odd technoleg yn hollol wahanol yn wych... mae'r copiau yna ganddon ni ar gof a chadw a'r hanesion ac mae hynny yn hollol anhygoel."
"Yn 1976 fe wnaeth dorri bob cyswllt gyda'r mudiad yn anffodus ond mi'r oedd hi dal yn ffrindiau gyda sawl aelod o'r mudiad.
"O ran y Gymraeg a Chymreictod a sefydlu'r mudiad, mi'r oedd Zonia Bowen yn allweddol o bwysig ac mae'n dyled ni'n fawr iddi a hoffen i ar ran y mudiad gydymdeimlo'n ddwys gyda'r teulu oll."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2015
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2017