'Pwysig' cael menywod yn dyfarnu gemau rygbi

Gyda phencampwriaeth Chwe Gwlad y merched yn cychwyn ddydd Sadwrn, mae un dyfarnwr ifanc yn galw ar fwy o ferched ifanc i fynd ati i ddyfarnu gemau rygbi.

A hithau ond yn 15 oed, mae Olivia Meaker yn awyddus i weld mwy o ferched yn gwneud yr un peth â hi.

Dywedodd ei bod yn "bwysig iawn" i gael cynrychiolaeth o fenywod yn dyfarnu gemau.

Dywedodd fod rhai o'r merched oedd yn ei gêm gyntaf fel dyfarnwr yn methu â chredu fod merch yn eu dyfarnu: "Roedden nhw'n falch iawn fod merch yn eu reffio nhw, do' nhw erioed wedi cael merch yn eu reffio".

Er mai hi oedd yr unig ferch ar y cwrs dyfarnu, dywedodd mai'r peth gorau am ddyfarnu "yw gweld y merched yn gweld fi yn neud e [dyfarnu], roedden nhw mewn complete shock".

Dyw Olivia ei hun erioed wedi chwarae gêm o rygbi pan fo menyw yn dyfarnu. Dyna un o'r rhesymau yr aeth ati i gwblhau'r cwrs: "Ro'n i eisiau rhoi cyfle i'r plant lleiaf gael y cyfle yna".

Dywedodd ei bod yn bwysig i gael mwy o ferched yn dyfarnu gemau rygbi fel bo' nhw'n "deall" gêm y merched.