Dyfarnwr rygbi 15 oed am weld mwy o ferched yn ei dilyn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Olivia Meaker eisoes yn dyfarnu gemau rygbi i blant

Gyda phencampwriaeth Chwe Gwlad y merched yn cychwyn ddydd Sadwrn, mae un dyfarnwr ifanc yn galw ar fwy o ferched ifanc i fynd ati i ddyfarnu gemau rygbi.

A hithau ond yn 15 oed, mae Olivia Meaker yn awyddus i weld mwy o ferched yn gwneud yr un peth â hi.

Ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y dynion eleni doedd yna'r un dyfarnwr o Gymru.

Yn ôl y cyn-ddyfarnwr rhyngwladol, Nigel Owens, sicrhau bod dyfarnwyr yn parhau i ddyfarnu, er gwaetha'r heriau cynyddol, yw'r "her".

'Pwysig iawn' annog menywod i ddyfarnu

A hithau'n ddisgybl 15 oed yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, Hirwaun, mae Olivia Meaker eisoes yn dyfarnu gemau rygbi i blant yn yr ardal.

Dywedodd ei bod yn "bwysig iawn" i gael cynrychiolaeth o fenywod yn dyfarnu gemau.

Dywedodd fod rhai o'r merched oedd yn ei gêm gyntaf fel dyfarnwr yn methu â chredu fod merch yn eu dyfarnu: "Roedden nhw'n falch iawn fod merch yn eu reffio nhw, do' nhw erioed wedi cael merch yn eu reffio".

Olivia Meaker
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Olivia ei hun erioed wedi chwarae gêm o rygbi pan fo menyw yn dyfarnu

Er mai hi oedd yr unig ferch ar y cwrs dyfarnu, dywedodd mai'r peth gorau am ddyfarnu "yw gweld y merched yn gweld fi yn neud e [dyfarnu], roedden nhw mewn complete shock".

Dyw Olivia ei hun erioed wedi chwarae gêm o rygbi pan fo menyw yn dyfarnu. Dyna un o'r rhesymau yr aeth ati i gwblhau'r cwrs: "Ro'n i eisiau rhoi cyfle i'r plant lleiaf gael y cyfle yna".

Dywedodd ei bod yn bwysig i gael mwy o ferched yn dyfarnu gemau rygbi fel bo' nhw'n "deall" gêm y merched.

Olivia gyda'i thimFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Olivia yn chwarae i dîm yr Iron Maidens ym Merthyr

"Dw i eisiau cael mwy o'r merched o gwmpas fi i ddyfarnu".

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru mae rhwng 80 i 100 o ferched a menywod wedi ennill cymwyster dyfarnu ar lefelau gwahanol ers Awst 2023 ac mae cyrsiau dyfarnu yn benodol i ferched ar gael.

Eisiau "ysbrydoli" pobl ifanc i ddyfarnu

Gyda'r un person o Gymru wedi dyfarnu ym mhencampwriaeth Chwe Glwad y dynion eleni, mae Ellis Cambourne, sydd hefyd yn ddisgybl 14 oed, yn awyddus i "ysbrydoli" ei ffrindiau i fynd ati i ddyfarnu.

Dywedodd fod ei dad wedi bod yn "ysbrydoliaeth" iddo gofrestru ar y cwrs ac i gychwyn dyfarnu.

"Dw i wedi bod yn chwarae rygbi lleol yn Nelson ers 'mod i'n bump oed ac mae fy nhad wedi bod yn dyfarnu ers rhyw 10 mlynedd, felly roedd e'n ysbrydoliaeth i fi ddod mewn.

"Fi yw'r unig un o'n oedran i fi'n nabod sy'n dyfarnu, ond gobeithio byddai'n ysbrydoliaeth i bawb arall gallu dyfarnu."

Ellis CambourneFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellis wedi bod yn chwarae rygbi i'w dîm lleol ers oedd yn bump oed

Dywedodd mai un o'r rhesymau nad oes llawer o bobl ifanc yn mynd ati i ddyfarnu yw oherwydd y "diffyg dealltwriaeth o'r cyfleoedd i ddyfarnu pan ry' ni mor ifanc".

"Fi'n credu bod angen i glybiau lleol hysbysebu pethau'n well achos does dim lot o coaches sy'n dweud wrth y chwaraewyr am y cyfleoedd sydd ar gael."

Rheswm arall mae Ellis yn annog eraill i fynd ati i ddyfarnu yw er mwyn datblygu eu hunan hyder.

"Mae llawer o chwaraewyr yn ein clwb ni a probably ar draws y cwm yn dawel iawn ac yn swil, ond wedyn os maen nhw'n datblygu'r hyder 'na o fod yn y canol a phawb yn gwrando arnoch chi yna bydde'n helpu chi gyda'ch sgiliau cyfathrebu a phethau," meddai.

Rio DyerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid oedd yr un dyfarnwr o Gymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni

Dywed fod peidio cael yr un Cymro yn dyfarnu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni "yn rili fustrating".

Wrth gyfeirio yn ôl at gêm Cymru yn erbyn Ffrainc y penwythnos diwethaf, dywedodd: "Oedd Luke Pierce yn siarad Ffrangeg â chwaraewyr Ffrainc, a oedd e jysd yn neud i fi feddwl does neb yn gallu siarad Cymraeg yn y canol... mae'r iaith yn cael ei cholli".

Ei gyngor felly yw i bobl ifanc yw i "fynd amdani".

Er bod y dyfarnwyr ifainc yn awyddus i weld mwy o'u cyfoedion yn mynd ati i ddyfarnu, "dala arnyn nhw yw'r challenge mwyaf" yn ôl y cyn ddyfarnwr rhyngwladol, Nigel Owens.

Fe gychwynnodd e ei yrfa dyfarnu yn 16 oed, tra yr oedd yn ddisgybl yn Ysgol Maes yr Yrfa yng Nghefneithin.

Dywedodd mai prin yw'r dyfarnwyr sy'n cyrraedd y lefel broffesiynol a bod llawer yn "danto ac yn gorffen" dyfarnu'n gynnar yn eu gyrfa.

nigel owens
Disgrifiad o’r llun,

Fe gychwynnodd Nigel Owens ddyfarnu yn 16 oed

Ychwanegodd ei bod hi'n "bwysig dyfarnu am y rheswm iawn, yn rhywbeth chi'n mwynhau gwneud achos mae'n fath o job os nagych chi'n neud e am y rheswm iawn, chi ddim yn mynd i fynd 'mlan gyda'r dyfarnu".

Fe gyfeiriodd at y ffaith fod ambell un yn gorffen dyfarnu oherwydd y ffordd y mae chwaraewyr yn eu trin ond nad dyna'r "rheswm pennaf".

Ychwanegodd nad oes cyfleoedd i lwyth o bobl i ddyfarnu'n broffesiynol ac felly mae pobl yn rhoi'r ffidl yn y to yn rhy sydyn.

Pynciau cysylltiedig