Bae Colwyn: Gwyntoedd cryfion yn arwain at dywydd garw

Dyma'r olygfa stormus yn sgil gwyntoedd cryfion ym Mae Colwyn yn Sir Conwy ddydd Mawrth.

Mae adeiladau wedi bod heb drydan, ffyrdd ar gau a nifer o rybuddion llifogydd mewn grym yn sgil tywydd gwael ar draws Cymru.

Daeth rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am wyntoedd cryfion ar hyd rhannau helaeth o arfordir Cymru i rym am 01:00 fore Mawrth, ac roedd weithredol tan 15:00.

Roedd yr arbenigwyr wedi rhagweld hyrddiadau hyd at 65mya yn ystod y dydd.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer Sir Gâr, Sir Benfro, Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.