Trafferthion ar draws Cymru yn sgil gwyntoedd cryfion

Disgrifiad,

Y gwyntoedd cryf yn achosi tonnau mawr ym Mae Colwyn ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae adeiladau wedi bod heb drydan, ffyrdd ar gau a nifer o rybuddion llifogydd mewn grym yn sgil tywydd gwael ar draws Cymru.

Daeth rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am wyntoedd cryfion ar hyd rhannau helaeth o arfordir Cymru i rym am 01:00 fore Mawrth, ac roedd yn weithredol tan 15:00.

Roedd yr arbenigwyr wedi rhagweld hyrddiadau hyd at 65mya yn ystod y dydd.

Roedd y rhybudd mewn grym ar gyfer Sir Gâr, Sir Benfro, Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Disgrifiad o’r llun,

Car yn gwneud ei ffordd trwy'r dŵr yn ardal Llanfair Talhaearn, Sir Conwy, ddydd Mawrth

Roedd dros 170 o dai yn y de heb drydan ben bore - 79 yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, 58 yn Abergwaun, 18 yn Llanbedr Pont Steffan a 16 yn Saundersfoot - ond roedd y National Grid yn rhagweld y byddai'r holl gyflenwadau wedi eu hadfer erbyn 09:30.

Roedd gwefan SP Network Solutions yn awgrymu fod rhai cartrefi wedi colli cyflenwad yn y gogledd hefyd - gan fwyaf yn ardaloedd Caergybi, Bethesda a Thywyn.

Mae amryw o rybuddion llifogydd coch mewn grym, ynghyd â mwy o rybuddion oren 'byddwch yn barod' - mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma, dolen allanol.

Ffynhonnell y llun, BBC Weather Watchers|Nadezna
Disgrifiad o’r llun,

Y tonnau'n taro arfordir Porthcawl ym Mhen-y-bont ar Ogwr fore Mawrth

Cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych nos Lun bod pedwar o'u meysydd parcio arfordirol - tri ym Mhrestatyn ac un yn Y Rhyl - ar gau ddydd Mawrth oherwydd y posibilrwydd o lifogydd.

Mae'r cyngor hefyd wedi penderfynu cau Ffordd Bastion a Barkby Avenue ym Mhrestatyn oherwydd pryderon am y llanw uchel.

Mae'r A4067 rhwng Crai ym Mannau Brycheiniog ac Ystradgynlais wedi bod ar gau oherwydd tirlithriad ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i yrwyr osgoi'r ardal.

Mae'r A484 ar gyrion Castellnewydd Emlyn wedi bod ynghau hefyd ar ôl i goeden ddisgyn ar y ffordd.

Daw'r trafferthion diweddaraf ddyddiau'n unig ar ôl i Storm Kathleen daro Cymru ddydd Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig