'Dwi dal yn crynu' wedi tân sychwr dillad Caernarfon
Mae gohebydd BBC Cymru Fyw, Rhian Price, wedi bod yn disgrifio'r sioc a'r braw a gafodd yn dilyn tân yn ei chartref a ddechreuodd mewn peiriant sychu dillad.
Ddechrau'r wythnos, cafodd Rhian ei deffro yng nghanol y nos gan rywun yn ei rhybuddio bod cwt yng nghefn ei chartref yng Nghaernarfon yn "wenfflam".
Dywedodd ei bod "dal yn crynu" wedi'r digwyddiad, er bod y teulu'n lwcus na chafodd unrhyw un anaf.