'Aeth fy mheiriant sychu dillad ar dân yn oriau mân y bora'

Disgrifiad,

Gohebydd BBC Cymru Fyw yn disgrifio'r sioc a'r braw yn dilyn tân

  • Cyhoeddwyd

Ddiwedd Mawrth fe rybuddiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru y cyhoedd i fod yn ofalus wrth ddefnyddio peiriannau sychu dillad, dolen allanol.

Daeth eu hapêl yn dilyn pedwar achos o fewn mis o beiriannau'n mynd ar dân - ym Mwcle, Dinbych, Brychdyn a Rhuthun.

Mae criwiau wedi ymateb i ddau achos pellach ers dechrau'r wythnos hon - gyda'r diweddaraf, wrth i mi ysgrifennu, ym Mynytho, ym Mhen Llŷn.

Yng Nghaernarfon roedd y llall - yn fy nghartref inna'.

'Nath neb farw. Chafodd neb anaf. 'Nath yr un ohonon ni, yn deulu o bedwar, anadlu mwg.

A does dim difrod o gwbl i'r tŷ ei hun, dim ond y cwt yn y cefn ble roedd y peiriannau golchi a sychu dillad.

Ond mae'r hyn sy'n digwydd pan mae pethau'n mynd o chwith yn eich sobri.

Dydy o ddim yn brofiad y bysach chi'n ei ddymuno i unrhyw un.

Roedd y pedwar ohonon ni'n cysgu'n sownd, ychydig ar ôl 02:00 fore Mawrth, pan gawsom ein deffro gan rywun yn gweiddi ac yn curo ar y drws.

Wrth godi i'w ateb, doedd dim arwydd o fewn y tŷ bod unrhyw beth o'i le.

Pan ddy'dodd bod yna dân a bod angen i bawb adael, es i'r cefn a gweld golau oren o rywle wrth gyrraedd y stafell haul.

Es i'r ardd a gweld fflamau'n dawnsio trwy ddrws agored y cwt, a gwybod yn syth bod dim lle i oedi rhag i'r sefyllfa waethygu.

Fe gyrhaeddodd ddau griw tân o fewn munudau - mae rhywun yn gwerthfawrogi eu gwaith beth bynnag, ond yn fwy fyth pan 'dach chi eich hun yng nghanol y fath argyfwng.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma sy'n weddill o'r cwt golchi

Fe ddiflannodd unrhyw reddf newyddiadurol i gofnodi'r digwyddiad. Does dim lluniau na fideo o'r achlysur, er bod fy ffôn yn fy llaw.

Wrth wylio'r ymladdwyr tân yn diffodd y fflamau, roedd yn amlwg pa mor eithriadol o ffodus fuon ni bod rhywun wedi digwydd cerdded heibio yr adeg yna o'r bore.

Diolch o galon i'r sawl hwnnw - rydan ni wedi cael awgrym pwy ydy o - ac i gymdogion hael a gynigiodd loches i ni yn yr oriau mân.

Cafodd y difrod ei gyfyngu i'r cwt ei hun, fwy neu lai. Pe tasai'r tân wedi lledu i'r tŷ ei hun, mae boeler nwy y system gwres canolog ochr arall i'r wal. Roedd y ffliw sy'n cysylltu â hwnnw wedi toddi yn y gwres.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sioc yn parhau oriau wedi'r tân

Roedd y criwiau tân wedi gadael cyn 04:00 - mawr ddiolch iddyn nhw am bopeth.

Does dim gwybod yn sicr eto pam ddigwyddodd y tân, ond roedd popeth yn awgrymu yn eitha' buan taw'r peiriant sychu dillad oedd wedi ei achosi.

Aeth gweddill y dydd heibio yn un niwl mawr o gysylltu gyda chontractwyr i ailgysylltu'r trydan, nwy a dŵr - ac ymateb i fflyd o negeseuon hyfryd o gefnogaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith clirio eto i ddod

Dros 36 awr yn ddiweddarach, dwi'n dal yn sigledig, ond dwi'n fyw ac yn iach ac mae fy nghartref fwy neu lai yn iawn.

Alla'i ddim dychmygu trallod rheiny sydd wedi colli popeth mewn tanau mwy difrifol.

Ond mi wn erbyn hyn pa mor sydyn a pha mor hawdd gall pethau fynd o chwith - a dwi'n awyddus i helpu lledaenu apêl y gwasanaethau brys.

Dyna pam dwi'n rhannu fy mhrofiad, er mor gyndyn yw unrhyw newyddiadurwr i fod yng nghanol stori.

Pan mae'r gwasanaethau tân a'r gwneuthurwyr yn eich cynghori i ddefnyddio peiriannau sychu dillad gyda gofal, gwrandewch arnyn nhw. Mae'r cyngor yna am reswm.

Pynciau cysylltiedig