Cymraeg ôl-16: Colli arian a glustnodwyd yn 'bryder mawr'

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio rhoi arian ychwanegol i ddau o sefydliadau mawr y Gymraeg yn "bryder mawr", yn ôl Cadeirydd Mudiad Dyfodol i'r Iaith.

Mewn cyfweliad â rhaglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Heini Gruffudd fod y llywodraeth "wedi dewis cwtogi mewn meysydd meddal iddyn nhw".

Ni fydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn derbyn £3.5m a oedd - yn ôl ymgynghoriad gan bwyllgor diwylliant Senedd Cymru, dolen allanol - wedi'i glustnodi ar eu cyfer ar gyfer 2024-25.

Mae'r llywodraeth yn honni nad oedd ffigwr pendant wedi'i glustnodi "yn ffurfiol" ar gyfer arian ychwanegol i'r ganolfan cyn yr hyn maen nhw'n ei alw yn "ail-flaenoriaethu", ond maen nhw'n cydnabod na fydd y coleg yn derbyn £840,000 ychwanegol a glustnodwyd.

Ychwanegodd Mr Gruffydd: "Heb fod arian yn cael ei neilltuo'n benodol i addysg Gymraeg ac i ddatblygu'r Gymraeg, does dim datblygiad yn mynd i fod."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn er mwyn amddiffyn y gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen" fel y gwasanaeth iechyd, gofal ac ysgolion a'u bod "wedi gweithio'n galed i gyfyngu'r effaith ar y Gymraeg".