Cymraeg ôl-16: Colli arian a glustnodwyd yn 'andwyol' a 'syfrdanol'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu am beidio rhoi arian ychwanegol i ddau o sefydliadau mawr y Gymraeg.
Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddim yn derbyn £3.5m a oedd - yn ôl ymgynghoriad , dolen allanolgan bwyllgor diwylliant Senedd Cymru - wedi'i glustnodi ar eu cyfer ar gyfer 2024-25.
Ond mae'r llywodraeth yn honni nad oedd ffigwr pendant wedi'i glustnodi "yn ffurfiol" ar gyfer arian ychwanegol i'r ganolfan cyn yr hyn maen nhw'n ei alw yn "ailflaenoriaethu".
Maen nhw'n cydnabod na fydd y coleg yn derbyn £840,000 ychwanegol a glustnodwyd.
Ond yn ôl rhai, fe allai'r penderfyniad i "ail-flaenoriaethu" arian gael effaith "andwyol" a "syfrdanol" ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth y BBC eu bod wedi "gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn er mwyn amddiffyn y gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen" fel y gwasanaeth iechyd, gofal ac ysgolion a'u bod "wedi gweithio'n galed i gyfyngu'r effaith ar y Gymraeg".
'Dim modd ymestyn y gwaith'
Cafwyd cynnydd o 11% yn nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg yn 2022-23, gyda nifer y dysgwyr ifanc 9% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.
"Dyma'r math o dwf sy'n bosib gyda buddsoddiad ariannol" meddai'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, "ond mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu'r dyraniad ychwanegol ar gyfer y ganolfan ar gyfer 2024-25 yn golygu nad oes modd i ni ymestyn y gwaith ymhellach ond gallwn anelu i gynnal lefel bresennol y gwasanaeth".
"Mae'r galw am wasanaethau Dysgu Cymraeg yn uchel" meddai.
Rhoddodd y ganolfan gyfleoedd i 1,150 o bobl ifanc 16-25 oed yn ystod 2022-23 a 2,593 o bobl ifanc yn ystod 2023-24 i ddatblygu sgiliau a hyder i siarad y Gymraeg, drwy amrywiaeth o brosiectau a phartneriaethau newydd gan gynnwys colegau addysg bellach, Dug Caeredin ac ysgolion.
Cyllideb y ganolfan ar gyfer 2023-24 a 2024-25 yw £14.8 miliwn, sy'n cynnwys £1.6 miliwn ar gyfer dysgwyr 16-25 a'r gweithlu addysg. Erbyn hyn, ni fydd unrhyw arian ychwanegol yn cael ei ddarparu yn 2024-25.
Mae'r Coleg Cymraeg wedi derbyn grant o £10.1 miliwn yn 2023-24 a 2024-25, swm sy'n cynnwys cyllid ychwanegol o £2.8m a ddarparwyd o dan y cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd.
Ond roedd ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio i ddarparu £840,000 ychwanegol i'r coleg yn 2024-25 ond dywedodd Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr na fyddai'r coleg yn derbyn yr arian ychwanegol.
'Dim gweithgareddau newydd'
Cyllideb ôl-16 y coleg yn 2023-24 yw £2.8 miliwn, a dywedodd y coleg bod "cyllideb fflat" yn 2024-25 yn caniatáu iddyn nhw gynnal y prosiectau sydd eisoes ar y gweill.
Ond "ni fydd modd ymestyn a chefnogi gweithgareddau newydd", meddai, er enghraifft "ehangu yn y meysydd iechyd a gofal a gofal plant ble mae prinder gweithwyr dwyieithog; datblygu darpariaeth adeiladwaith ym mhob coleg; penodi aseswyr prentisiaethau tu hwnt i'r meysydd sydd eisoes yn derbyn cefnogaeth na chynnal cynhadledd i staff y sectorau".
Dywedodd Catrin Davis, pennaeth prentisiaethau Urdd Gobaith Cymru "y bydd unrhyw doriad i gyllideb y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn creu effaith negyddol ac o bosib syfrdanol i ddatblygiad addysg ôl-16, drwy gyfrwng y Gymraeg".
Rhybuddiodd: "Heb y gefnogaeth gan y ddau sefydliad hyn, byddem yn gweld effaith sylweddol ar yr iaith Gymraeg. Ni fydd rhaglen prentisiaethau dwyieithog yr Urdd yn medru parhau.
"Byddem yn gweld cwymp yn y nifer o ddysgwyr sydd yn buddio o'r HWB Sgiliau Hanfodol, oedd bron i 200 unigolyn yn 23-24."
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffudd Jones fod y buddsoddiad ychwanegol yn 2022-23 a 2023-24 wedi galluogi'r coleg a'r ganolfan "weithredu'n fwy dwys yn y sector ôl-16".
Er enghraifft, meddai, "mae wedi arwain at benodi mwy o ddarlithwyr ac aseswyr cyfrwng Cymraeg, a mwy o hyfforddiant Cymraeg i staff ac i fyfyrwyr.
"Er nad oes modd rhagweld beth yn union fydd effaith y penderfyniad i ailflaenoriaethu'r cyllid ychwanegol ar y niferoedd sy'n dysgu Cymraeg neu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n rhesymol dod i'r casgliad y bydd rhywfaint o'r gwaith uchod yn arafu neu ddim yn cael ei ddatblygu ymhellach."
Rhybuddiodd bod hyn yn "debygol o gael effaith andwyol ar ddatblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16".
Pwysleisiodd bod "datblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16 yn cychwyn o waelodlin hynod isel".
Angen i'r Llywodraeth flaenoriaethu'r system addysg
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Cadeirydd Dyfodol i'r Iaith, Heini Gruffudd fod cwtogi'r arian yn bryder "difrifol iawn" gan ddweud fod y Llywodraeth "wedi dewis cwtogi mewn meysydd meddal iddyn nhw".
"Mae gwir angen arian yn hollol amlwg ar gynlluniau i ddatblygu'r Gymraeg os yw'r Llywodraeth o ddifrif am gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050".
"Heb fod arian yn cael ei neilltuo'n benodol i addysg Gymraeg ac i ddatblygu'r Gymraeg, does dim datblygiad yn mynd i fod."
Aeth ymlaen i sôn mai un broblem yw'r arian sy'n cael ei wario "i fyfyrwyr fynd allan o Gymru i astudio".
"Mae'n hen bryd i'r Llywodraeth flaenoriaethu sut maen nhw'n datblygu'r system addysg yng Nghymru".
'Pryderus'
Dywedodd Owen Evans, prif arolygydd Estyn, sy'n "craffu'n gyson" ar waith y ddau sefydliad, fod "angen ystyried yn ofalus sgil effaith unrhyw leihad yn yr ymyraethau ieithyddol a gwaith datblygu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar y Gymraeg ac ar gyfleoedd pobl ifainc i'w chaffael a'i defnyddio".
"Rydym yn bryderus y gallai lleihad yn lefelau cyllid presennol danseilio'r cynnydd diweddar yn ehangder dylanwad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
"Heb o leiaf gynnal lefelau cyllid presennol rydym yn bryderus na welir cynnydd ar raddfa ystyrlon yn y niferoedd sy'n siaradwyr Cymraeg gweithredol".
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod "prinder darpariaeth ôl-16 Gymraeg, ond nid o ddiffyg awydd myfyrwyr i ddilyn cyrsiau Cymraeg", ac "ar ben hynny mae diffyg dilyniant addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg ôl-16 yn tanseilio ac yn dibrisio addysg Gymraeg flaenorol mewn ysgolion".
Mae'r gymdeithas yn galw am "ddatblygu strategaeth genedlaethol glir at addysg ôl-16, er mwyn i'r hynny o gyllid sydd ar gael gael ei ddefnyddio'n effeithiol".
Gan hefyd wrthwynebu y newidiadau diweddaraf o ran cyllid, cyfeiriodd prif weithredwr Dyfodol i'r Iaith, Dylan Bryn Roberts at y ddau Gyfrifiad olaf.
"Mae niferoedd rhwng 16-24 oed sy'n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng o 80,909 i 73,724. Mae cynyddu darpariaeth addysg bellach yn greiddiol er mwyn taclo'r golled ieithyddol yma," meddai Mr Roberts.
'Pwysau sylweddol ar ein holl gyllidebau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae agenda cyni Llywodraeth y DU yn golygu bod yna bwysau sylweddol ar ein holl gyllidebau, ac rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn er mwyn amddiffyn y gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen yr ydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw, fel y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau gofal, ac ysgolion.
"Mae cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith yn darged yr ydym yn ei chymryd o ddifri, ac rydyn ni wedi gweithio'n galed i gyfyngu'r effaith ar y Gymraeg, gan gynnal y cyllid sydd ar gael i addysg statudol Gymraeg a'r blynyddoedd cynnar."
Ychwanegodd y llefarydd, "rydyn ni wedi gorfod ail-flaenoriaethu'r cyllid sydd ar gael i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gan gynnal lefelau cyllideb 2023-24, er mwyn sicrhau bod pob gwasanaeth rheng flaen o fewn cyllideb Cymraeg 2050 yn cael eu hamddiffyn. Rydyn ni'n falch o fod wedi gallu rhoi arian ychwanegol i'r Coleg a'r Ganolfan Dysgu yn 22-23 a 23-24, a bydd hyn yn gyfle i ystyried sut i wneud y defnydd gorau o'r arian sydd ar gael.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid ar draws Cymru i sicrhau ein bod ar y llwybr cywir i gyrraedd ein nod ac i ganfod ffyrdd arloesol a chreadigol o wneud y mwyaf o'r cyllidebau sydd ar gael i ni."
Mae'r ganolfan a'r coleg wedi cadarnhau na fydd penderfyniad y llywodraeth yn arwain at newidiadau o ran nifer eu swyddi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 Chwefror