Urdd 2026: 'Braf manteisio' ar gyfleusterau Sioe Môn
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau mai ar gae Sioe Môn y bydd yn cynnal yr Eisteddfod flynyddol yn 2026.
Daeth cadarnhad fis Mehefin y llynedd bod yr ŵyl yn dychwelyd i Ynys Môn - ac i'r un safle, ger pentref Gwalchmai - ag yn 2004.
Mae'r paratoadau eisoes wedi dechrau ar gyfer y digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal rhwng 25 a 31 Mai 2026, yn ôl cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol.
Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, dywedodd Manon Wyn Williams, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, ei bod hi'n "braf manteisio ar yr adnoddau ac ar y cyfleusterau sydd yma ar y safle yn barod".
Bydd angen i'r Ynys godi £380,000 er mwyn cynnal yr eisteddfod, ond dywedodd ei bod yn "ffyddiog dawel" y bydd modd cyrraedd y nod hwnnw.