Cae Sioe Môn fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2026

Disgrifiad,

Dywedodd Manon Wyn Williams ei bod hi'n "braf manteisio ar yr adnoddau ac ar y cyfleusterau sydd yma ar y safle yn barod"

  • Cyhoeddwyd

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau mai ar gae Sioe Môn y bydd yn cynnal yr Eisteddfod flynyddol yn 2026.

Daeth cadarnhad fis Mehefin y llynedd bod yr ŵyl yn dychwelyd i Ynys Môn - ac i'r un safle, ger pentref Gwalchmai - ag yn 2004.

Mae'r paratoadau eisoes wedi dechrau ar gyfer y digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal rhwng 25 a 31 Mai 2026, yn ôl cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol.

Dywedodd Manon Wyn Williams: “Mae ugain mlynedd ers y cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn ddiwethaf, felly rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at ei chroesawu eto yn 2026."

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

"Nid mater bach yw cynnal gŵyl genedlaethol fel hon ac mae llawer o waith i’w wneud eto dros y ddwy flynedd sydd i ddod," ychwanegodd Ms Williams.

“Y cam nesaf yw sefydlu’r pwyllgorau apêl ymhob cymuned ledled yr Ynys a fydd yn gyfrifol am drefnu gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth yn ogystal ag arian.

"Byddai’n wych gweld cynifer â phosibl yn ymuno â’r pwyllgorau hyn a hoffem weld holl blant a phobl ifanc yr Ynys yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r trefniadau er mwyn sicrhau y bydd hi’n Eisteddfod i’w chofio – mae croeso i bawb.”

Gan groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi: “Braf iawn yw clywed fod cae Sioe Môn wedi ei ddewis yn gartref i Eisteddfod yr Urdd 2026.

"Mae’r Ynys a’i thrigolion yn edrych ymlaen yn eiddgar at gynnal yr ŵyl arbennig yma.

"Bydd yn gyfle i ddathlu ac ymfalchïo yn ein Cymreictod ac i estyn croeso cynnes i blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru i’n Sir ni.

"Byddwn yn parhau i gydweithio â’r Urdd er mwyn sicrhau bod ni’n gwneud y mwyaf o’r cyfle rhagorol yma i ni ddangos Ynys Môn ar ei gorau.”

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth y gwahoddiad swyddogol i wahodd Eisteddfod yr Urdd 2026 i Ynys Môn yn ystod cyfarfod yn Llangefni y llynedd

Mae trefnwyr yn galw nawr am enwebiadau ar gyfer Llywyddion y Dydd - unigolion sydd "yn ffigyrau adnabyddus lleol, sy’n cynrychioli’r ynys ac yn esiampl i blant a phobl ifanc heddiw".

Hefyd maen nhw'n gwahodd enwebiadau am "unigolion sydd wedi rhoi oes o gyfraniad i’r Urdd, trwy wirfoddoli, cefnogi neu hyfforddi" i gael eu hystyried fel Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.

Ardal Maldwyn sy'n croesawu'r Eisteddfod eleni, ar Fferm Mathrafal ger Meifod rhwng 27 Mai a 1 Mehefin.

Parc Margam fydd cartref yr ŵyl yn 2025, wrth i'r Eisteddfod ddychwelyd i Gastell-nedd Port Talbot am y tro cyntaf ers 2003.