Fferm solar Ynys Môn: 'Dwi wir yn poeni'

Mae rhai o drigolion gogledd Môn wedi disgrifio cynllun i adeiladu fferm solar fydd yr un maint â thua 1,700 o gaeau pêl-droed fel un "dychrynllyd o fawr".

Bwriad Lightsource bp yw codi'r paneli solar ar draws tri safle, fyddai'n cynhyrchu digon o ynni gwyrdd i gynnal dros 130,000 o gartrefi.

Yn ôl y cwmni byddai'r prosiect solar a storio ynni - fydd angen caniatâd cynllunio gan Lywodraeth y DU oherwydd ei faint - yn ffordd o helpu i gyrraedd targedau sero net Llywodraeth Cymru.

Ond mae eisoes gwrthwynebiad yn lleol oherwydd ei faint a phryderon dros golli cymaint o dir amaethyddol o safon.

William Hughes, neu Wil Betws fel mae llawer yn ei adnabod, fu'n rhannu ei bryderon am y datblygiad.