Môn: Cynllun fferm solar fwyaf Cymru yn 'ddychrynllyd'

Disgrifiad,

William Hughes, neu Wil Betws fel mae llawer yn ei adnabod, fu'n rhannu ei bryderon am y datblygiad

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai o drigolion gogledd Môn wedi disgrifio cynllun i adeiladu fferm solar fydd yr un maint â thua 1,700 o gaeau pêl-droed fel un "dychrynllyd o fawr".

Bwriad Lightsource bp yw codi'r paneli solar ar draws tri safle, fyddai'n cynhyrchu digon o ynni gwyrdd i gynnal dros 130,000 o gartrefi.

Mae hyn bron gyfystyr â'r nifer o dai yn siroedd Môn, Gwynedd a Chonwy gyda'i gilydd.

Gyda chapasiti o 350MW, byddai datblygiad Maen Hir bron bum gwaith yn fwy na'r fferm solar weithredol fwyaf yn y DU.

Yn ôl y cwmni byddai'r prosiect solar a storio ynni - fydd angen caniatâd cynllunio gan Lywodraeth y DU oherwydd ei faint - yn ffordd o helpu i gyrraedd targedau sero net Llywodraeth Cymru.

Ychwanegon nhw fod bwriad i fuddsoddi mewn sgiliau, addysg a swyddi ar yr ynys.

Ond mae eisoes gwrthwynebiad yn lleol oherwydd ei faint a phryderon dros golli cymaint o dir amaethyddol o safon.

Nid dyma'r datblygiad solar cyntaf ar yr ynys o bell ffordd.

Yn ddiweddar fe gafodd datblygiad 49.9MW, dros 190 acer, ei adeiladu ger Rhosgoch.

Yn ogystal â hynny, cafodd datblygiad 35 MW ei ganiatáu i orchuddio tua 150 erw ger pentrefi Bryngwran a Chaergeiliog.

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lightsource bp yn gobeithio codi'r paneli solar ar draws tri safle (gwyrdd tywyll), fyddai'n gorchuddio ardal o dros 3,000 acer

Ond gan fod y fferm solar arfaethedig mor fawr, gyda'r disgwyl y bydd yn cynhyrchu dros 350MW, mae'n cael ei ystyried fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).

Mae hyn yn golygu mai Gweinidogion Llywodraeth y DU, yn hytrach na Chyngor Môn neu Lywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, yn seiliedig ar argymhelliad yr Arolygiaeth Gynllunio.

Byddai'r paneli yn cael eu rhannu ar draws tri safle, gydag un yn Rhosgoch.

Byddai'r ddau arall i'r de o Lannerch-y-medd ac ar lan ogleddol Llyn Alaw.

'Colli tir da'

Mae William Hughes, neu Wil Betws fel mae llawer yn ei adnabod, yn byw ger y safle lle maen nhw'n bwriadu adeiladu rhai o'r paneli.

Y llynedd, ond dafliad carreg i ffwrdd, fe gafodd datblygiad paneli solar arall ei adeiladu ar dros 200 erw o dir.

Ag yntau wedi bod yn ffermio yn yr ardal am dros 50 mlynedd, dywedodd ei fod yn pryderu byddai'n golygu colli mwy o dir amaethyddol da.

Disgrifiad o’r llun,

Mae fferm solar 49.9MW, dros 190 acer, ger Rhosgoch

"Mae'r cynllun yma wedi dod fel dipyn o fraw i mi," meddai.

"Y broblem fwya' dwi'n weld yw ein bod yn colli tir da yma ym Môn.

"Mae hwnnw'n broblem gen i, a phan fyddan nhw'n clirio nhw o 'ma, faint o flynyddoedd gymrith hi i ddod a'r tir yn ôl i'w gyflwr gwreiddiol?"

Aeth ymlaen i gwestiynu: "Ydy o am gymryd gwerth oddi ar ein tai ni? 'Da ni'n byw mewn lle mor braf a dyla' ni geisio ei gadw mor braf a thwt a threfnus."

Ond pwysleisiodd nad oedd ganddo wrthwynebiad personol i baneli solar, "cyn belled â'u bod yn y lle iawn".

"Mae 'na le i baneli solar, does gen i ddim dowt am hynny.

"Fysa gen i ddim gwrthwynebiad i roi solar panel ar ben bob tŷ ym Môn, bob cwt a bob dim," ychwanegodd.

"Ond colli'r tir 'ma? Hwn ydy fy mhroblem i."

'Adnabod y tir fwyaf priodol'

Yn ôl Lightsource bp, sy'n gyfrifol am y cynllun, byddai'r datblygiad yn gwneud cyfraniad sylweddol i ymdrechion Llywodraeth Cymru i gyrraedd targed sero net erbyn 2050.

Ar hyn o bryd y datblygiad mwyaf o'i fath yn y DU yw Fferm Solar Llanwern, sydd â chapasiti o 75MW.

Ffynhonnell y llun, Hywel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynlluniau blaenorol i adeiladu ffermydd solar wedi denu gwrthwynebiad yn lleol

Fel mae'n sefyll byddai prosiect Maen Hir bron bum gwaith yn fwy na Llanwern, ond mae datblygiad o faint tebyg eisoes yn cael ei adeiladu rhwng Faversham a Whitstable yng Nghaint ar gost o thua £450m.

Dywedodd llefarydd ar ran Lightsource bp eu bod yn "parchu fod pryderon yn lleol", ond mai cychwyn y broses oedd hon.

Y disgwyl yw bydd y tir dal ar gael ar gyfer pori hyd yn oed ar ôl codi'r paneli, gyda mesurau sgrinio ychwanegol i liniaru'r effeithiau gweledol.

"Mae gwaith yn cael ei wneud i adnabod y tir fwyaf priodol sydd ar gael i ni i'w ddatblygu cyn cynnal ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni," meddai'r cwmni.

"Rydym hefyd yn gweithio ar fferm solar gymunedol 5MW er budd yr ardal leol, ac yn ymchwilio i gyfleoedd i fuddsoddi mewn sgiliau, addysg a swyddi ar yr ynys."

Dywedon nhw eu bod am "sicrhau bod pobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal yn cael y cyfle i lywio a dylanwadu ar ddatblygiad ein cynigion" gan annog pobl leol i fanteisio ar yr ymgynghoriad.

'Mae'n dychryn rhywun'

Er ei fod yn gynnar iawn yn y broses gynllunio, gyda dim disgwyl cais llawn tan y flwyddyn nesaf, mae'r cynlluniau eisoes wedi eu trafod gan rai o gynghorau cymuned yr ardal.

Yn eu mysg mae Cyngor Tref Amlwch, sydd wedi anfon llythyr yn datgan eu gwrthwynebiad.

Dywedodd cadeirydd y cyngor, Gareth Winston Roberts, fod "teimladau cryf iawn" ac nad oedd cynlluniau solar eraill wedi creu swyddi mawr yn yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Gareth Winston Roberts: "Fydd o'm yn dod â llawer iawn o fudd i'r gymdeithas leol"

Dywedodd ei fod yn "poeni am y transmission, os fydd hon yn mynd ar y lein 400KV ar draws Ynys Môn fydd na le i Wylfa Newydd? Yn enwedig hefo un yn cyflogi miloedd ac un yn cyflogi dim".

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "annheg" nad Llywodraeth Cymru na'r cynghorau lleol sy'n cael gwneud y penderfyniad.

"Pa effaith mae am gael ar bobl gyfagos? Mae hi mor fawr a dwi'n meddwl fod hi'r mwyaf ym Mhrydain, ac mae hynny'n dychryn rhywun.

"Hefyd fydd o'm yn dod â llawer iawn o fudd i'r gymdeithas leol, peanuts maen nhw'n dalu a peanuts 'da ni'n gael."

Ffynhonnell y llun, Lightsource bp
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lightsource bp eisoes wedi datblygu paneli solar ar raddfa lai ym Maes Bach, Rhondda Cynon Taf

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn y byddai'r awdurdod yn datgan barn ar unrhyw ddatblygiad arfaethedig fel rhan o'r broses cynllunio.

Ond does dim disgwyl penderfyniad terfynol am flynyddoedd o bosib, gyda gweinidogion Llywodraeth y DU i wneud y penderfyniad yn seiliedig ar argymhelliad yr Arolygaeth Gynllunio.

Yr her iddyn nhw fydd cydbwyso'r angen am ynni gwyrdd gyda’r pryderon dros effaith cynlluniau o'r fath.

Pynciau cysylltiedig