'Siom' na fydd gorsaf niwclear newydd yn Nhrawsfynydd

Mae safle Trawsfynydd yng Ngwynedd wedi cael ei ddiystyru fel lleoliad ar gyfer gorsaf niwclear newydd.

Dywedodd y cyn-brif weinidog Boris Johnson yn 2022 fod Llywodraeth y DU yn "edrych i adeiladu" adweithydd niwclear bychan (SMRs) yn Nhrawsfynydd.

Ond mae corff y sefydlodd y llywodraeth i gydlynu'r diwydiant yn credu nad oes gan y safle ddigon o le ar gyfer cymal cyntaf y gwaith.

Dywed Great British Nuclear (GBN) efallai na fyddai Trawsfynydd, oedd ag atomfa weithredol nes 1991, yn gallu bod yn weithredol "cyn gyflymed â safleoedd posib eraill".

Er bod y safle wedi cael ei hepgor o'r cynigion cychwynnol, dywed GBN bod Trawsfynydd yn "safle diddorol ar gyfer datblygiad niwclear yn y dyfodol".

Yn ôl yr ymgynghorydd ynni John Idris Jones, mae'r penderfyniad yn "siomedig" ond mynnodd bod yna dal "botensial mawr i'r safle yn Nhrawsfynydd".