Dim gorsaf niwclear newydd i Drawsfynydd
- Cyhoeddwyd
Mae safle Trawsfynydd yng Ngwynedd wedi cael ei ddiystyru fel lleoliad ar gyfer gorsaf niwclear newydd.
Dywedodd y cyn-brif weinidog Boris Johnson yn 2022 fod Llywodraeth y DU yn "edrych i adeiladu" adweithydd niwclear bychan (SMRs) yn Nhrawsfynydd.
Ond mae corff y sefydlodd y llywodraeth i gydlynu'r diwydiant yn credu nad oes gan y safle ddigon o le ar gyfer cymal cyntaf y gwaith.
Dywed Great British Nuclear (GBN) efallai na fyddai Trawsfynydd, oedd ag atomfa weithredol nes 1991, yn gallu bod yn weithredol "cyn gyflymed â safleoedd posib eraill".
Er bod y safle wedi cael ei hepgor o'r cynigion cychwynnol, dywed GBN bod Trawsfynydd yn "safle diddorol ar gyfer datblygiad niwclear yn y dyfodol".
Yn ôl yr AS Plaid Cymru leol, Liz Saville Roberts mae'n anodd gweld sut nad oedd "ystyriaethau gwleidyddol" wrth wraidd y penderfyniad.
Mae GBN wedi cyhoeddi eisoes eu bod yn prynu tir safleoedd Wylfa yn Ynys Môn ac Oldbury-on-Severn yn Sir Gaerloyw.
Mae Wylfa eisoes wedi ei farnu'n addas ar gyfer datblygiad niwclear mawr, ac ar gyfer nifer o adweithyddion modwlar bach y gellir eu codi mewn ffatrïoedd.
Does dim adweithyddion o'r fath hyd yn hyn yn y DU.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru Gwmni Egino er mwyn datblygu cynlluniau ar gyfer Trawsfynydd, ond mae ei gyllid wedi cael toriad sylweddol - £500,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol o'i gymharu â £2m yn 2023/24.
Mae BBC Cymru wedi cael gwybod mai'r rheswm dros hynny oedd diffyg cefnogaeth gan GBN.
Mae gwleidyddion Ceidwadol wedi beirniadu'r toriad, ond mae'r cyllid, medd Llywodraeth Cymru, yn "cydnabod realiti'r newid y mae'r cwmni'n ei wynebu ar hyn o bryd".
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2020
Mae cynlluniau GBN ar gyfer cymal cyntaf gwaith codi adweithyddion modwlar bach yn sôn am benderfynu ar fuddsoddiadau erbyn 2029, gyda thrydan ar gyfer y grid erbyn canol y 2030au.
Fe wnaeth atomfa bresennol Trawsfynydd gau yn 1991, ac mae'n dal yn y broses o gael ei datgomisiynu.
Ym marn GBN does gan y safle ddim digon o le, ac ni fyddai ar gael yn ddigon cyflym i sefydlu adweithyddion.
Dywedodd AS Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie, wrth Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ddydd Mercher bod GBN "wedi gwneud hi'n glir nad ydy'r safle'n rhan o'u cynlluniau ar gyfer y cymalau nesaf oherwydd, yn syml, mae'n rhy fach".
Yn 2022 - flwyddyn cyn sefydlu GBN - dywedodd y cyn-brif weinidog Boris Johnson wrth gynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig bod Llywodraeth y DU yn "edrych ar godi adweithydd modwlar bach arall" yn Nhrawsfynydd.
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2020
Dywedodd GBN mewn datganiad eu bod "yn cydnabod y cynnydd da gan Gwmni Egino o ran deall potensial safle Trawsfynydd ar gyfer datblygiad niwclear ac arbenigedd sylweddol y tîm i'r diwydiant, a byddwn yn parhau i gydweithio gyda nhw".
"Ar gyfer cymal cyntaf gweithredu SMRs, efallai na fydd Trawsfynydd yn gallu bod yn weithredol cyn gyflymed â safleoedd posib eraill, nac yn cynnig yr un capasiti cynhyrchu posib, ond mae'n safle diddorol ar gyfer datblygiad niwclear yn y dyfodol."
'Eisiau sicrhau'r cyfleoedd all ddod'
Yn y pwyllgor ddydd Mercher, gofynnodd Virginia Crosbie wrth Ysgrifennydd Economi Cymru, Jeremy Miles a chyfarwyddwr economi gyda Llywodraeth Cymru, Andrew Slade, pam y cafodd cyllid Cwmni Egino ei dorri.
Atebodd Mr Slade bod gweinidogion yn gorfod gwneud "penderfyniadau anodd" ynghylch cyllidebau.
Ychwanegodd: "Os gyrhaeddwn ni bwynt ble mae cytundeb gyda chydweithwyr Llywodraeth y DU i symud ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer Trawsfynydd a sawl safle arall yng ngogledd Cymru, yna yn bendant mae hynny'n faes y byddwn ni'n buddsoddi mwy ynddo.
"Ond rŵan hyn, dydyn ni ddim ar bwynt ble gallwn ni wneud hynny yn nhermau'r trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn fwy cyffredinol."
Dywedodd Mr Miles: "Yn amlwg rydym eisiau gwneud yn siŵr ei fod â rôl yn y dyfodol oherwydd rydym eisiau sicrhau'r cyfleoedd a all ddod maes o law."
'Ar sail ystyriaethau gwleidyddol'
Yn ôl Liz Saville Roberts, AS etholaeth Dwyfor Meirionnydd sy'n cynnwys Trawsfynydd, mae'n "anodd" osgoi'r casgliad bod penderfyniad GBN "ar sail ystyriaethau gwleidyddol yn hytrach na gwneud defnydd cyfrifol o arian cyhoeddus a'r disgwyliad sut mae defnyddio SMRs orau".
Dywedodd: "Mae wedi ei gydnabod ers blynyddoedd bod Trawsfynydd yn ddelfrydol ar gyfer datblygiad SMR cynnar, nid lleiaf am fod y safle'n llwyr dan berchnogaeth gyhoeddus, wedi ei gysylltu â'r grid ac mewn sefyllfa dda i ddangos sut y gall SMR berfformio gyda chyflenwad dŵr môr."
Ychwanegodd ar Dros Frecwast fore Gwener: "Dyma ardal - de Gwynedd - sydd wedi dioddef o golli swyddi yn y sector cyhoeddus ers 20 mlynedd.
"'Da ni wirioneddol angen datblygu swyddi safon uchel, cyflogau uchel, i gadw pobl ifanc yn yr ardal yma."
Yn ôl AS Ynys Môn, Virginia Crosbie, dylai pob plaid gefnogi datblygu Wylfa gan mai dyna sy'n "gwneud y synnwyr mwyaf", gan ychwanegu bod y llywodraeth Geidwadol "yn cyflwyno'r twf niwclear mwyaf mewn cenhedlaeth ac fel y dywed GBN, mae gan Drawsfynydd gyfle cryf i fod wrth galon dyfodol GBN".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Trwy Gwmni Egino dros y tair blynedd ddiwethaf rydym wedi gweithio'n ddiffuant i ddadlau achos Trawsfynydd, ac mae'n siomedig nad yw GBN yn ffafrio'r safle ar gyfer datblygiad SMR cyntaf o'i fath.
"Byddwn serch hynny yn parhau i chwarae rhan ragweithiol a phositif o ran datblygu niwclear newydd yn y ddau safle yng ngogledd Cymru, gan helpu amlhau i'r eithaf eu potensial economaidd-gymdeithasol.
"Mae cyllideb Cwmni Egino ar gyfer eleni wedi ei gosod yn bwyllog mewn ymgynghoriad gyda'r cwmni ac mae'n cydnabod realiti'r newid y mae'r cwmni'n ei wynebu ar hyn o bryd."
'Economi’r ardal ddim wedi codi'
Ond nid pawb sy'n siomedig am y cyhoeddiad.
Dywedodd Brian Jones, is-gadeirydd CND Cymru - Yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear yng Nghymru - ar Dros Frecwast fore Gwener fod y datblygiad "ddim yn annisgwyl".
"Mae ynni niwclear wedi profi dros y blynyddoedd i fod yn gostus iawn," meddai.
"Mae’n cymryd amser hir i godi atomfeydd, ac mae’n gadael llawer o wastraff niwclear ar ôl.
"Bydd angen i rywun ofalu amdano am filoedd o flynyddoedd.
"Rhaid cofio fod y safle yn Nhrawsfynydd wedi ei ddewis yn wreiddiol yn y 60au oherwydd roedd yn ardal dlawd ac roedd yr atomfa yn mynd i newid y sefyllfa ariannol yn yr ardal.
"Fe ddaeth, mae wedi mynd ac fe fyddan nhw’n gweithio arno am efallai 100 o flynyddoedd eto, ond doedd economi’r ardal ddim wedi codi o gwbl.
"Felly mae’n rhyw fath o false promise, i feddwl y gallwn ni wneud yr un peth eto. "
'Gwneud popeth o fewn ein gallu'
Mewn datganiad ar eu gwefan dywedodd Cwmni Egnio: "Mae’r gwaith datblygu safle-benodol a wnaed hyd yma – ynghyd â’r arbenigedd sefydliadol a’r cysylltiadau yr ydym wedi’u datblygu â rhanddeiliaid – yn gosod seiliau cadarn ar gyfer datblygiadau niwclear newydd yma yng ngogledd Cymru.
"Rydym yn parhau i ymgysylltu â’n noddwyr yn Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ar lefel Llywodraeth y DU i sicrhau ymrwymiad a chefnogaeth barhaus i Gwmni Egino fel y gallwn chwarae rôl barhaus wrth gyflawni uchelgais niwclear y DU.
"Yn hyn o beth, sicrhau manteision economaidd-gymdeithasol i ogledd Cymru yw ein prif flaenoriaeth.
"Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gogledd Cymru, gan gynnwys Trawsfynydd, yn parhau’n gadarn ar y map."