Teimladau 'cymysg' am ddatganoli

Mae dydd Llun 6 Mai yn nodi chwarter canrif ers yr etholiadau cyntaf i Fae Caerdydd a dechrau datganoli.

Mewn refferendwm ddwy flynedd ynghynt, fe bleidleisiodd 50.3% o blaid sefydlu'r Cynulliad, a throsglwyddo grymoedd dros amryw o feysydd gan gynnwys iechyd, addysg ac amaeth o San Steffan i Gymru.

Ers hynny mae'r Cynulliad wedi ei ailenwi'n Senedd ac mae mwy o bwerau wedi dod.

Felly pa argraff mae datganoli wedi ei gael ar bobl dros y 25 mlynedd diwethaf?

Dywedodd Shan Thomas, o'r Tymbl: "Bach yn gymysglyd weden i...fi'n credu bod lot yn cefnogi fe yn bendant.

"Mae lot o Gymreictod yn y cwm a lot o bobl yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.

"Ond wrth gwrs mae'r ochr arall hefyd ble mae rhai ddim.

Mwy yma.