25 ers datganoli: Beth ydy'r farn?
- Cyhoeddwyd
Mae dydd Llun 6 Mai yn nodi chwarter canrif ers yr etholiadau cyntaf i Fae Caerdydd a dechrau datganoli.
Mewn refferendwm ddwy flynedd ynghynt, fe bleidleisiodd 50.3% o blaid sefydlu'r Cynulliad, a throsglwyddo grymoedd dros amryw o feysydd gan gynnwys iechyd, addysg ac amaeth o San Steffan i Gymru.
Ers hynny mae'r Cynulliad wedi ei ailenwi'n Senedd ac mae mwy o bwerau wedi dod.
Felly pa argraff mae datganoli wedi ei gael ar bobl dros y 25 mlynedd diwethaf?
Ein gohebydd gwleidyddol Cemlyn Davies sydd wedi bod yn casglu'r farn yng Nghwm Gwendraeth.
60 milltir o'r Senedd, mae torf wedi ymgasglu ar Barc y Mynydd Mawr yn Y Tymbl.
Mae'n nos Fawrth ac yn haul hwyr y gwanwyn mae'r tîm rygbi lleol - y Piod - yn herio Tregaron.
Ymhlith y cefnogwyr mae Shan Thomas, 48, yn gwisgo'i siaced Clwb Rygbi Y Tymbl.
"Bach yn gymysglyd weden i," yw'r ateb pan ofynnaf iddi sut mae pobl leol yn teimlo am ddatganoli.
"Fi'n credu bod lot yn cefnogi fe yn bendant.
"Mae lot o Gymreictod yn y cwm a lot o bobl yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.
"Ond wrth gwrs mae'r ochr arall hefyd ble mae rhai ddim.
"O ran addysg ac o ran safon byw ar y foment, fi'n credu bod pethe yn llwm iawn felly falle bod hwnna ddim yn ffafriol o ran edrych ar ddatganoli.
"Ond mae lot o fe hefyd yn dod o'r llywodraeth yn Llundain felly mae'n anodd dweud really."
'Sawl miliwn sydd wedi ei wastraffu?'
Dro ar ôl tro wrth i mi grwydro o gwmpas y cae'n siarad â phobl mae'r sgwrs yn troi at bolisi 20 milltir yr awr Llywodraeth Cymru.
Oriau'n gynharach daeth datganiad yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth newydd yn amlinellu sut y gallai'r cyfyngiad cyflymder gael ei wyrdroi ar rai ffyrdd.
"Mae'n anodd iawn ymddiried mewn unrhyw benderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar y foment," medd Shan.
"Chi dim ond angen edrych ar y polisi 20mya - sawl miliwn sydd wedi ei wastraffu ar hwnna?
"Dy'n nhw ddim yn helpu eu hunain."
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2024
Ar gae cyfagos mae'r tîm pêl-droed lleol yn wynebu Llangennech.
Dyna'r gêm mae Dewi a Mike, y ddau'n 76, yn ei gwylio. Beth maen nhw'n ei feddwl o'r Senedd?
"Sai'n gwbod beth i'w ddweud am byti fe," medd Mike, cyn i Dewi siarad ar ei ran: "Dyw e ddim yn keen am beth ddigwyddodd gyda'r 20mya."
Llafur enillodd yr etholiad cyntaf yn 1999, ac mae'r blaid wedi arwain Llywodraeth Cymru ers hynny, gan fod yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd, ysgolion a thrafnidiaeth.
Amddiffyn ei record mae'r llywodraeth gan ddweud bod datganoli wedi caniatáu i Gymru fod "ar flaen y gad gyda pholisïau blaengar".
Ond ydy pobl Y Tymbl yn credu bod pethau wedi gwella ers dechrau datganoli?
"Sai'n meddwl 'ny yn hunan," medd Dewi.
"Sdim pethach wedi cael eu gwneud. Mae gyda ni’r national health – mae rheina i gyd yn stryglan.
"Mae'n dod lawr i beth mae [Llywodraeth Cymru] yn cael wrtho Lloegr yn dyw e.
"Os nad oes arian yn dod mewn, sdim arian 'da nhw hala."
O ble mae'r arian yn dod?
Daw'r rhan fwyaf o gyllid Llywodraeth Cymru ar ffurf grant gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.
Mae gweinidogion yn San Steffan yn mynnu bod Llywodraeth Cymru'n cael digon o bres, ond nad ydy hi'n ei wario'n ddoeth.
Mae'r Ceidwadwyr yn dadlau er enghraifft y dylai gweinidogion Cymru ganolbwyntio mwy ar wasanaethau cyhoeddus, yn hytrach na pholisïau fel cynyddu nifer yr aelodau ym Mae Caerdydd.
Barn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yw bod angen ehangu'r Senedd er mwyn cryfhau ein democratiaeth.
"Sdim isie rhagor [o aelodau] - mae gormod 'na'n barod," medd Dewi.
"Ni fydd yn talu am hwnna 'to," ychwanega Mike.
Nôl wrth y cae rygbi dyfodol y diwydiant amaeth sy'n poeni Tomos Samuel, 20, sy'n gobeithio mynd i weithio'n y sector llaeth.
Dros y misoedd diwethaf mae ffermwyr ar draws Cymru wedi cynnal nifer o brotestiadau'n erbyn cynlluniau'r llywodraeth ar gyfer diwygio'r system daliadau i ffermwyr.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn gwrando ond mae barn Tomos yn glir.
"Be' sy' 'mlaen 'da nhw?
"Sdim un o nhw o gefndir ffarmo ac maen nhw i gyd yn trio rhoi'r rheolau 'ma arno ni a gweud 'tho ni shwt i ffarmo pryd dyw e no good," medd Tomos.
"Weden i wrtho nhw shwt i fynd i ffarmo."
Yma i gefnogi'r ymwelwyr mae Buddug, sy'n 23 ac yn gweithio fel nyrs mewn uned ddamweiniau.
"Mae fe'n wael - ni mor fisi, mae fe'n crazy," wrth drafod sut mae nyrsys yn teimlo ar hyn o bryd.
Mae hi'n cyhuddo gwleidyddion o "guddio tu ôl i ddrysau".
"Fi'n credu mae pethe just yn mynd yn waeth.
"Mae [Llywodraeth Cymru] yn gobeithio bod pethe'n mynd i wella ond ar y funud fel nyrsys so ni'n gweld bod pethe'n gwella."
Er bod yr arolygon barn yn awgrymu bod mwyafrif pobl Cymru o blaid datganoli o hyd, a thaw lleiafrif fyddai eisiau cael gwared ar y Senedd, dydy canran yr etholwyr a fwrodd eu pleidlais erioed wedi cyrraedd 50% mewn etholiad i Senedd Cymru.
Yn ôl Rhys, sy'n 18 ac ar ei flwyddyn olaf yn Ysgol Maes y Gwendraeth, mae gwaith i’w wneud i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn ymwybodol o ddatganoli.
"Sai’n credu bod lot o bobl oedran fi’n gwbod lot am y Senedd.
"Sai’n credu bod addysg yn cael ei wneud am y Senedd yn dda iawn.
"Mae e'n eitha' siomedig bod pobl oedran fi ddim yn gw'bod beth sy'n digwydd yn eu gwlad eu hunain."
Galwad syml sydd gan Thomas, 75, ar i'r pleidiau ym Mae Caerdydd i "weithio mwy da'i gilydd am y gore i Gymru".
Cydweithio i sicrhau buddugoliaeth oedd hanes y Piod, a’r rygbi o leiaf yn plesio’r cefnogwyr cartref.