Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016
Dyna'r cyfan o'r Fenni a gweddill Cymru am heddiw. Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Mawrth.
Bydd y cystadlu yn dechrau am 10:00, yn cynnwys cystadlaethau i 12-16 oed a'r Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed
Wedi'r cystadlu yn y Pafiliwn heddiw prif seremoni'r dydd yw defod Coroni'r bardd am 16:30
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol
Dyna'r cyfan o'r Fenni a gweddill Cymru am heddiw. Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Mawrth.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Bu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn croesawu ffoaduriaid i faes yr Eisteddfod y prynhawn yma, mewn digwyddiad a drefnwyd gan Oxfam Cymru.
Fel rhan o'r digwyddiad, bu Rakan o Syria yn canu cân.
Bu farw Dai Dower un o focswyr mwyaf llwyddiannus Cymru yn 83 oed.
Yn ystod ei yrfa fe enillodd y teitl Prydeinig, yr Ymerodraeth ac Ewropeaidd yn y pwysau plu.
Fe ymgeisiodd yn aflwyddiannus i fod yn bencampwr y byd yn 1957.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Dywedodd Elinor Gwynn, Bardd Coronog Eisteddfod y Fenni 2016, y bydd yn "cymryd amser i arfer efo'r teitl" ond ei bod yn hyfryd bod ynghanol y bwrlwm eisteddfodol heddiw wrth gael ei chyfweliad ar gyfer S4C, dolen allanol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae cyfle i bawb fod yn aelod o'r Orsedd gyda pheiriant creu enw barddol Cymru Fyw.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Fe wnaeth 14,092 o bobl ymweld â Maes yr Eisteddfod ddydd Llun.
Mae hynny'n cymharu â 17,683 ar gyfer Meifod y llynedd a 16,285 yn Llanelli yn 2014.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Wrth wylio Dewi Llwyd yn cyflwyno rhaglen yr Eisteddfod ar S4C ddaeth Cymru Fyw ar draws y llun cynnar yma o Dewi, ac o George Clooney yn 15 oed.
Oes unrhywun erieod wedi gweld y ddau yn yr un 'stafell.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Osgordd yn gadael y llwyfan.
Heddlu Gwent
Dywed Heddlu Gwent fod dyn 18 oed o Gasnewydd wedi ei gyhuddo gyda lladrad a bod a chyllell yn ei feddiant.
Cafodd y dyn ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron ar ddyddiad sydd eto i'w benderfynu.
Mae wedi ei gyhuddo o ladrata ar dri achlysur gan gynnwys defnyddio cyllell a dwyn bag gyda £200 o arian ynddo.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r seremoni yn cloi yn y dull traddodiadol. Mae'r gynulleidfa ar ei thraed yn canu'r anthem - Hen wlad fy nhadau.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Rebecca Rhydderch-Price, Morwyn y Fro, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gwynllyw sy'n cyflwyno'r Flodeuged.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mam y fro, Catrin Wood, Cynhorthwy-ydd Dysgu yn Ysgol Y Ffin sydd yn cyflwyno'r Corn Hirlas i'r bardd buddugol.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Ddawns Flodau yn un o uchafbwyntiau prif seremonïau’r Orsedd. Mae'r Corn Hirlas yn cael ei gyflwyno gan Catrin Wood o Gil-y-coed a Rebecca Rhydderch-Price o'r Fenni sy'n cyflwyno'r Flodeuged. Elinor Edwards ac Angharad Morley yw Morynion y Llys a'r Macwyiaid yw Alexander Hemington a Ieuan David Merchant.
Daw y dawnswyr o Ysgolion Cynradd Cantref, Dewstow, Ifor Hael, Y Ffin ac Ysgol Gymraeg y Fenni
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Y Prifardd a'r Priflenor Manon Rhys sy'n cyfarch y bardd. Fe enillodd hi'r Goron y llynedd ym Maldwyn am gerddi ar y thema 'Breuddwyd'.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Elinor Gwynn yn gwisgo Coron Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Nia Tudur sy'n canu cân y Coroni.
Yn ogystâl â bod yn lais cyfarwydd yn y cylchoedd cerdd dant mae Nia hefyd yn un o ddarllenwyr newyddion rheolaidd gwasanaeth newyddion BBC Radio Cymru.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cafodd Coron Eisteddfod y Fenni ei chynllunio gan Deborah Edwards, artist lleol.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Coron Eisteddfod Genedlaethol 2016 yn rhodd gan Gymreigyddion y Fenni.
Mae rhodd ariannol o £750 yn cael ei rhoi gan gwmni Alun Griffiths (Contractwyr) Cyf.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Elinor Gwynn yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau eleni.
Roedd y tri beirniad yn unfrydol mai gwaith 'Carreg Lefn' oedd yn fuddugol, gyda chanmoliaeth uchel i'r casgliad o gerddi a gafwyd gan y bardd.
Magwyd Elinor Gwynn yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin. Gwyddoniaeth, byd natur, a chrwydro yn yr awyr agored oedd ei diddordebau mawr, ac aeth ymlaen i astudio Swoleg a Botaneg ac yna arbenigo a chymhwyso ymhellach mewn Cyfraith Amgylcheddol.