Crynodeb

  • Bydd y cystadlu yn dechrau am 10:00, yn cynnwys cystadlaethau i 12-16 oed a'r Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed

  • Wedi'r cystadlu yn y Pafiliwn heddiw prif seremoni'r dydd yw defod Coroni'r bardd am 16:30

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Dyna'r cyfan o'r Fenni a gweddill Cymru am heddiw. Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Mawrth. 

  2. Cipolwg o Faes yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 17:55 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Disgrifiad,

    Bore Llun y brifwyl

  3. Croesawu ffoaduriaid i'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 17:52 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Bu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn croesawu ffoaduriaid i faes yr Eisteddfod y prynhawn yma, mewn digwyddiad a drefnwyd gan Oxfam Cymru.

    Fel rhan o'r digwyddiad, bu Rakan o Syria yn canu cân. 

    Rakan
  4. Dai Dower wedi marwwedi ei gyhoeddi 17:51 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Bu farw Dai Dower un o focswyr mwyaf llwyddiannus Cymru yn 83 oed. 

    Yn ystod ei yrfa fe enillodd y teitl Prydeinig, yr Ymerodraeth ac Ewropeaidd yn y pwysau plu.

    Fe ymgeisiodd yn aflwyddiannus i fod yn bencampwr y byd yn 1957.

  5. 'Amser i arfer'wedi ei gyhoeddi 17:50 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dywedodd Elinor Gwynn, Bardd Coronog Eisteddfod y Fenni 2016, y bydd yn "cymryd amser i arfer efo'r teitl" ond ei bod yn hyfryd bod ynghanol y bwrlwm eisteddfodol heddiw wrth gael ei chyfweliad ar gyfer S4C, dolen allanol

    Elinor GwynnFfynhonnell y llun, bbc
  6. Beth yw eich enw barddol?wedi ei gyhoeddi 17:40 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae cyfle i bawb fod yn aelod o'r Orsedd gyda pheiriant creu enw barddol Cymru Fyw.

    Beth fydd eich enw chi?

    bardd
  7. Ffigurau ymwelwyrwedi ei gyhoeddi 17:33 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Fe wnaeth 14,092 o bobl ymweld â Maes yr Eisteddfod ddydd Llun. 

    Mae hynny'n cymharu â 17,683 ar gyfer Meifod y llynedd a 16,285 yn Llanelli yn 2014. 

  8. Gwahanwyd yn y groth?wedi ei gyhoeddi 17:32 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Wrth wylio Dewi Llwyd yn cyflwyno rhaglen yr Eisteddfod ar S4C ddaeth Cymru Fyw ar draws y llun cynnar yma o Dewi, ac o George Clooney yn 15 oed.

    Oes unrhywun erieod wedi gweld y ddau yn yr un 'stafell.

    dewi a george
  9. Coroni: Yr Osgordd yn gadael y llwyfanwedi ei gyhoeddi 17:28 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r Osgordd yn gadael y llwyfan. 

    llwyfan
  10. Cyhuddo dyn o ladratawedi ei gyhoeddi 17:28 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Heddlu Gwent

    Dywed Heddlu Gwent fod dyn 18 oed o Gasnewydd wedi ei gyhuddo gyda lladrad a bod a chyllell yn ei feddiant. 

    Cafodd y dyn ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron ar ddyddiad sydd eto i'w benderfynu. 

    Mae wedi ei gyhuddo o ladrata ar dri achlysur gan gynnwys defnyddio cyllell a dwyn bag gyda £200 o arian ynddo. 

  11. Coroni: Hen wlad fy nhadauwedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r seremoni yn cloi yn y dull traddodiadol. Mae'r gynulleidfa ar ei thraed yn canu'r anthem -  Hen wlad fy nhadau.  

  12. y Coroni: Y Flodeugedwedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Rebecca Rhydderch-Price, Morwyn y Fro, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gwynllyw sy'n cyflwyno'r Flodeuged.  

    Rebecca
  13. Coroni: Y Corn Hirlaswedi ei gyhoeddi 17:22 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mam y fro, Catrin Wood, Cynhorthwy-ydd Dysgu yn Ysgol Y Ffin sydd yn cyflwyno'r Corn Hirlas i'r bardd buddugol.

    catrin
  14. Coroni: Y Ddawns Flodauwedi ei gyhoeddi 17:15 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r Ddawns Flodau yn un o uchafbwyntiau prif seremonïau’r Orsedd. Mae'r Corn Hirlas yn cael ei gyflwyno gan Catrin Wood o Gil-y-coed a Rebecca Rhydderch-Price o'r Fenni sy'n cyflwyno'r Flodeuged. Elinor Edwards ac Angharad Morley yw Morynion y Llys a'r Macwyiaid yw Alexander Hemington a Ieuan David Merchant.

    Daw y dawnswyr o Ysgolion Cynradd Cantref, Dewstow, Ifor Hael, Y Ffin ac Ysgol Gymraeg y Fenni

    blodau
  15. Coroni: Cyfarch y Barddwedi ei gyhoeddi 17:14 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Y Prifardd a'r Priflenor Manon Rhys sy'n cyfarch y bardd.  Fe enillodd hi'r Goron y llynedd ym Maldwyn am gerddi ar y thema 'Breuddwyd'.

    manon
  16. Coroni: Elinor yn ei Choronwedi ei gyhoeddi 17:13 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Elinor Gwynn yn gwisgo Coron Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016. 

    elinor gwynn
  17. Coroni: Cân y Coroniwedi ei gyhoeddi 17:12 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Nia Tudur sy'n canu cân y Coroni. 

    Yn ogystâl â bod yn lais cyfarwydd yn y cylchoedd cerdd dant mae Nia hefyd yn un o ddarllenwyr newyddion rheolaidd gwasanaeth newyddion BBC Radio Cymru. 

    niat
  18. Coroni: Y Cynllunyddwedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Cafodd Coron Eisteddfod y Fenni ei chynllunio gan Deborah Edwards, artist lleol.

  19. Y Coroni: Y Goronwedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae Coron Eisteddfod Genedlaethol 2016 yn rhodd gan Gymreigyddion y Fenni. 

    Mae rhodd ariannol o £750 yn cael ei rhoi gan gwmni Alun Griffiths (Contractwyr) Cyf.

    y goronFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  20. Coroni: Elinor Gwynn yn fuddugolwedi ei gyhoeddi 17:05 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Elinor Gwynn yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau eleni.

    Roedd y tri beirniad yn unfrydol mai gwaith 'Carreg Lefn' oedd yn fuddugol, gyda chanmoliaeth uchel i'r casgliad o gerddi a gafwyd gan y bardd.

    Magwyd Elinor Gwynn yng Nghaerdydd a Chaerfyrddin. Gwyddoniaeth, byd natur, a chrwydro yn yr awyr agored oedd ei diddordebau mawr, ac aeth ymlaen i astudio Swoleg a Botaneg ac yna arbenigo a chymhwyso ymhellach mewn Cyfraith Amgylcheddol.

    bardd1